Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 20 Mai 2020.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y ddwy set o reoliadau sydd ger ein bron heddiw, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau. Cyfeiriaf atynt fel rheoliadau 'Rhif 2' a 'Rhif 3', yn hytrach nag ailadrodd eu teitl hir yn llawn.
Bydd yr Aelodau'n cofio'r ddadl a gawsom ar 29 Ebrill am y ddwy set o reoliadau a ragflaenai'r rhai sy'n cael eu trafod heddiw. Y rhain oedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020, a wnaed ac a ddaeth i rym ar 26 Mawrth. Dyma'r prif reoliadau a oedd yn gosod cyfyngiadau ar ein symudiadau ac yn ei gwneud yn ofynnol i rai busnesau gau. Eu prif ddiben oedd lleihau'r graddau y mae pobl yn gadael eu cartrefi yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng er mwyn helpu i gyfyngu ar y coronafeirws, lleihau'r baich ar y gwasanaeth iechyd ac achub bywydau, wrth gwrs.
Gwnaed diwygiadau pellach yn y rheoliadau diwygio a ddaeth i rym ar 7 Ebrill. Cyflwynai'r rhain y gofyniad am fesurau cadw pellter cymdeithasol ym mhob man gwaith ac roeddent yn gwneud newidiadau pwysig mewn perthynas â chladdu ac amlosgi.
Wrth i'r cyfyngiadau barhau, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r gofynion yn barhaus, ac rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r cyfyngiadau hyn yn ei chael ar bobl Cymru. Mae ein hadolygiad parhaus yn ychwanegol at y cylch adolygu 21 diwrnod, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am gyfyngiadau a gofynion bob 21 diwrnod.
Fel gyda'r set o reoliadau sy'n eu rhagflaenu, cyflwynwyd y ddwy gyfres o reoliadau rydym yn eu trafod heddiw o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy weithdrefnau brys i gefnogi ein dull o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru.
Yn rheoliadau Rhif 2, a ddaeth i rym ar 25 Ebrill, gwnaethom nifer o ddiwygiadau. Gwnaethom ddarpariaeth i ganiatáu ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, os oes angen, oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol, a'i gwneud yn glir fod ymweld â mynwent neu dir claddu neu ardd goffa arall i dalu teyrnged i rywun sydd wedi marw yn esgus rhesymol dros adael y fan lle rydych yn byw. Rydym hefyd yn ehangu'r diffiniad o 'unigolyn agored i niwed' i gynnwys grwpiau neu gyflyrau penodol eraill lle gallai pobl gael budd o gymorth, ac mae darparu nwyddau ar eu cyfer yn esgus rhesymol i rywun arall adael cartref, er enghraifft er mwyn cynorthwyo pobl â dementia. Roedd y newidiadau hyn yn ategu'r rheolau a oedd eisoes mewn grym ond fe'u gwnaed i ymateb i rai o'r heriau y gwyddom fod teuluoedd ledled Cymru yn eu hwynebu, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn cadw'r nod o reoli lledaeniad coronafeirws.
Mae'r rheoliadau Rhif 2 hefyd yn sicrhau bod y gofynion i gadw pellter corfforol o 2m ar waith ar gyfer gwasanaethau clicio a chasglu, ac yn ymestyn y ddyletswydd i gynnwys caffis a ddefnyddir gan y cyhoedd mewn ysbytai, a'r rhai sy'n gyfrifol am ffreuturau mewn ysgolion a charchardai ac at ddefnydd y lluoedd arfog er mwyn sicrhau bod pob mesur rhesymol yn cael ei roi ar waith.
Yn y rheoliadau Rhif 3, rydym wedi cymryd camau, yn unol â thystiolaeth wyddonol ac iechyd y cyhoedd, i wella lles a chefnogi gweithgarwch economaidd. Rydym wedi codi'r terfyn ar ymarfer corff unwaith y dydd yn unig, ac wedi caniatáu i lyfrgelloedd agor, cyn belled ag y dilynir y gofynion cadw pellter. Mae neges 'aros gartref' yn dal i fod ar waith yng Nghymru, ac mae ein rheoliadau yn nodi'n benodol fod rhaid gwneud ymarfer corff o fewn ardal sy'n lleol i'r man lle mae unigolyn yn byw. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn datgan y gall canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion agor yn amodol ar y gofynion cadw pellter cymdeithasol.
Felly, rydym wedi newid yr hyn sy'n esgus rhesymol at ddibenion adran 8(1) fel ei bod yn amlwg y gall unigolyn wneud defnydd o gyfleuster ailgylchu neu waredu gwastraff neu gasglu nwyddau a archebir o siop ar sail clicio a chasglu os oes angen iddynt wneud hynny. Rwy'n falch o weld bod canolfannau ailgylchu bellach yn ailagor ar sail wedi'i chynllunio ar draws Cymru.
Yn bwysig, mae'r rheoliadau Rhif 3 yn cynyddu trosolwg democrataidd drwy ddileu darpariaethau ynghylch terfynu gofynion neu gyfyngiadau drwy gyfarwyddyd Gweinidogion. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r holl newidiadau i'r prif reoliadau gael eu dwyn gerbron y Senedd. Lywydd, mae'r cyfyngiadau hyn yn eu lle er mwyn diogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad coronafeirws. Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn glir mai dim ond cyhyd â'u bod yn angenrheidiol ac yn gymesur y dylid cadw'r cyfyngiadau hyn yn weithredol, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r ymdrechion eithriadol a wnaed gan gynifer o bobl ledled Cymru i helpu pob un ohonom i arafu lledaeniad y clefyd.
Mae ein cynllun, a gyhoeddwyd ar 15 Mai ac sydd newydd gael ei drafod, yn nodi camau penodol rydym yn eu hystyried wrth inni symud allan o'r cyfyngiadau symud. Fel rhan o'n dull pwyllog a chydlynol o lacio'r cyfyngiadau, byddwn yn ystyried a fyddwn yn cyflwyno rhagor o newidiadau rheoleiddiol yn ystod yr wythnosau nesaf, a sut y gwnawn hynny. Am heddiw serch hynny, ein neges i bobl Cymru yw glynwch at y cyngor i aros gartref, ac os oes angen i chi adael eich cartref am un o'r rhesymau a ganiateir, arhoswch yn lleol. Wrth wneud hynny, fe fyddwch yn diogelu ein GIG ac yn helpu pob un ohonom i achub mwy o fywydau. Diolch, Lywydd.