Part of the debate – Senedd Cymru am 10:59 am ar 3 Mehefin 2020.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'r agenda heddiw. Bydd y Gweinidog Addysg yn gwneud datganiad y prynhawn yma ar ddiweddariad i'r ddarpariaeth addysg, ac wedyn bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad ar ddigartrefedd. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w gweld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.