Part of the debate – Senedd Cymru am 11:01 am ar 3 Mehefin 2020.
Llywydd, fel yn yr wythnosau blaenorol, byddaf yn rhoi sylw i faterion yn y datganiad hwn nad ydyn nhw'n cael sylw yn y datganiadau sy'n dilyn gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Yn fy natganiad blaenorol ar 20 Mai, tynnais sylw at effaith coronafeirws ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi nodi'r newidiadau yn y gyllideb atodol gyntaf a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae hyn yn cynnwys £2.4 biliwn i gynorthwyo'r ymateb i'r coronafeirws, gan gynnwys £750 miliwn i ariannu ein GIG a'n gwasanaethau cyhoeddus. Rydym ni wedi ariannu mwy na 55,000 o grantiau i fusnesau yng Nghymru, am gost o £660 miliwn. Mae'r busnesau hyn hefyd yn elwa ar ryddhad ardrethi drwy'r pecyn £1.4 biliwn a gyhoeddwyd ym mis Mawrth.
Llywydd, mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi mynd ymhell y tu hwnt i'r symiau a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU, ond rydym ni'n dal i fod yn gaeth i reolau'r Trysorlys sy'n cyfyngu ar ein gallu i ymateb i'r argyfwng. Bydd y Gweinidog cyllid yn parhau i bwyso am fwy o hyblygrwydd i'n galluogi i gyfeirio adnoddau i'r mannau lle mae eu hangen nhw fwyaf.
Ac, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud dyraniadau newydd mewn ymateb i'r argyfwng. Cynorthwyodd ein cyllid cychwynnol o £10 miliwn fwy nag 800 o bobl ddigartref i mewn i dai ers dechrau'r cyfyngiadau symud. Roedd yn adeg bwysig o ran datganoli, Llywydd, pan oedd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gallu nodi £20 miliwn arall i helpu sicrhau nad oes yn rhaid i neb ddychwelyd i'r strydoedd yma yng Nghymru, a bydd ganddi fwy i'w ddweud am hynny, mi wn, yn nes ymlaen yn y trafodion.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru gyllid o £65 miliwn i sicrhau bod gwasanaethau rheilffordd yn parhau i weithredu ar rwydwaith Cymru a'r gororau. Mae hyn yn dilyn cyllid o £40 miliwn a gadarnhawyd ym mis Mawrth, gan ddod â chyfanswm y cymorth i uchafswm o £105 miliwn. Byddwn yn parhau i sicrhau bod cysylltiadau cludiant cyhoeddus hanfodol yn cael eu cynnal.
Llywydd, rwy'n falch bod y canllawiau a gyhoeddwyd gennym ni yr wythnos diwethaf ar ddiogelwch yn y gweithle wedi cael eu cymeradwyo gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a Chyngres yr Undebau Llafur. Yr wythnos diwethaf hefyd, cynhaliwyd cyfarfod y cyngor partneriaeth cymdeithasol estynedig, pryd yr oedd cynrychiolwyr y trydydd sector a chomisiynwyr yn bresennol, yn rhan o'n hymateb partneriaeth.
Llywydd, trof nawr at ganlyniad yr adolygiad tair wythnos a ddaeth i ben ddydd Iau, 28 Mai. Y cyd-destun yw bod coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad creulon i iechyd yng Nghymru. Ddoe, adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ym mhob lleoliad, hyd at 22 Mai, bod 2,122 o farwolaethau yn ymwneud â coronafeirws yng Nghymru. Er bod y niferoedd hyn yn gostwng, gyda chleifion mewn gwelyau gofal critigol, er enghraifft, yn lleihau o wythnos i wythnos, rydym ni'n cofio colled pob bywyd unigol, y teuluoedd sy'n eu galaru nhw a'r angen parhaus i ni i gyd fod yn ofalus.
Bydd yr Aelodau yn gwybod bod yn rhaid adolygu ein rheoliadau coronafeirws bob 21 diwrnod. Y prawf y mae'n rhaid i ni ei ddefnyddio yw a yw'r cyfyngiadau ar fywyd yng Nghymru yn gymesur ac yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Wrth ddefnyddio'r prawf hwn, mae'n rhaid i ni ystyried cyngor y prif swyddog meddygol ac rydym ni hefyd yn dibynnu ar y dystiolaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau.
Dyma'r trydydd adolygiad, Llywydd, a byddaf yn crynhoi'r broses yr ydym ni wedi ei dilyn. Yn gyntaf, rydym ni'n llunio rhestr o'r dewisiadau posibl ar gyfer llacio cyfyngiadau, sy'n deillio o syniadau a gynhyrchwyd o fewn ac y tu hwnt i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yr awgrymiadau niferus yr ydym ni'n parhau i'w cael gan bobl ledled Cymru gyfan. Mae'r rhestr honno'n cael ei byrhau ar gyfer trafodaeth ac archwiliad i restr fer o ddewisiadau, a chaiff y rheini eu gwerthuso'n fanwl yn erbyn y cwestiynau a nodir yn y ddogfen fframwaith a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Ebrill, gan gynnwys egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ein nod yw nodi mesurau sy'n cael effaith gadarnhaol ac yn arwain at y perygl lleiaf i iechyd y cyhoedd. Rydym ni bob amser yn ystyriol o'r niwed sy'n cael ei achosi gan y cyfyngiadau, nid yn unig drwy coronafeirws yn uniongyrchol, ond mewn ffyrdd eraill, i iechyd y cyhoedd ac i lesiant cymdeithasol ac economaidd pobl.
Rydym ni wedi cynnal trafodaethau gyda'r llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig a maer Llundain yn ystod y cyfnod hwnnw o dair wythnos er mwyn rhannu syniadau a dadansoddiadau, i ddeall dulliau ein gilydd a'r dystiolaeth ym mhob un o'n hawdurdodaethau. Nid yw cydlyniaeth yn golygu mabwysiadu'r un dull yn union o lacio nac, mewn gwirionedd, o gyflwyno cyfyngiadau. Mae'n rhaid i bob Llywodraeth fod yn atebol am gydbwysedd y mesurau yr ydym ni'n penderfynu eu mabwysiadu.
Yn olaf, rydym ni wedi ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf o drosglwyddiad y feirws, sy'n pennu faint o hyblygrwydd sydd i unrhyw lacio heb beryglu'r cynnydd a wnaed hyd yma. Daethom i'r casgliad yng Nghymru bod yr amodau yn caniatáu rhai addasiadau i'r cyfyngiadau, ond y cyngor eglur iawn gan SAGE a Sefydliad Iechyd y Byd yw gwneud un newid ar y tro yn unig a monitro ei effaith.
Penderfynasom roi blaenoriaeth i alluogi pobl i gyfarfod ag eraill, gan fod gwahanu oddi wrth deulu a ffrindiau wedi bod mor anodd i bobl yn ystod y ddau fis diwethaf. Trwy wneud hynny, fe wnaethom ymateb i'r neges eglur gan bobl yng Nghymru mai diffyg cyswllt â phobl oedd y mater a oedd fwyaf pwysig iddyn nhw. Roedd y dystiolaeth yn dweud mai'r ffordd fwyaf diogel o wneud hyn oedd yn yr awyr agored, lle mae'r feirws yn goroesi am gyfnod llawer byrrach o amser nag y mae o dan do. Yn unol â hynny, gall pobl gyfarfod bellach a phobl eraill o un aelwyd arall yn yr awyr agored yn eu hardaloedd lleol, ar yr amod y cedwir pellter cymdeithasol. Bydd hyn hefyd yn bosibl i bobl yn y grŵp a warchodir, ar yr amod eu bod nhw'n cadw pellter cymdeithasol, a bydd hynny'n fwy hanfodol fyth, wrth gwrs, iddyn nhw.
Llywydd, fe wnaethom rai mân addasiadau eraill i alluogi myfyrwyr i ddychwelyd i golegau addysg bellach ar gyfer yr asesiadau sy'n hanfodol i rai allu cwblhau eu cyrsiau ac i alluogi priodasau i gael eu cynnal lle mae un o'r pâr yn angheuol wael. Rwyf i hefyd wedi cyfarwyddo y caiff busnesau nad ydyn nhw'n hanfodol sy'n gallu cydymffurfio â'r ddyletswydd cadw pellter corfforol ddechrau gwneud paratoadau dros y tair wythnos nesaf fel y byddan nhw mewn sefyllfa i ailagor ar ôl 18 Mehefin, ar yr amod—a bob amser ar yr amod—bod y dystiolaeth ar y pryd yn eu cefnogi i wneud hynny.
Llywydd, rydym ni eisoes hanner ffordd drwy wythnos gyntaf y cyfnod adolygu nesaf. Rydym ni'n dechrau ystyried dewisiadau ar gyfer unrhyw lacio pellach a allai fod yn bosibl ar ddiwedd y cyfnod, wedi eu cefnogi gan y system olrhain cyswllt a ddechreuodd o ddifrif ddydd Llun. Byddwn yn parhau i gymryd camau pwyllog tuag at leihau'r cyfyngiadau, mewn dull pedair gwlad, cydweithredol, gan ddiogelu iechyd y cyhoedd ac ymateb i flaenoriaethau pobl yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.