Part of the debate – Senedd Cymru am 11:18 am ar 3 Mehefin 2020.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Adam Price am y cwestiwn yna am un o faterion pwysig ein hoes? Bydd llawer o Aelodau wedi gweld y lluniau cwbl ofnadwy hynny o farwolaeth George Floyd; rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf ofnadwy yr wyf i'n cofio gorfod edrych arno erioed. Fe'm hatgoffwyd ynddo—dim ond i ddweud un peth cadarnhaol i ddechrau—am y berthynas hirsefydlog iawn sydd wedi bodoli rhwng Cymru a'r gymuned pobl dduon yn America, o'r 1930au pan fyddai Paul Robeson, y canwr a'r ymgyrchydd ardderchog hwnnw dros hawliau sifil yn ymweld â Chymru mor rheolaidd, gan siarad yn gofiadwy yn Aberpennar ym 1938 mewn cynulliad enfawr o bobl o dde Cymru i gefnogi rhyfel cartref Sbaen, a'r bobl o Gymru a aeth i ymladd yn y fan honno, hyd at y 1960au gyda'r eglwys yn Birmingham, Alabama, sydd â ffenestr y talwyd amdani gan bobl o Gymru yn rhan o'n diddordeb yn y mudiad hawliau sifil bryd hynny. Felly, mae ein diddordeb yn y boblogaeth pobl dduon a phobl o'r cymunedau hynny yn America yn mynd yn ôl ddegawdau lawer iawn, a chefais fy atgoffa'n rymus o hynny pan welais y lluniau erchyll hynny.
Ceir anfantais strwythurol i bobl dduon yn America, ond mae Adam Price yn iawn i ni beidio â meddwl mai dim ond mewn mannau eraill y mae'n bodoli. Mae'n bodoli yn ein cymunedau ni ein hunain hefyd. Ac ar y gwaethaf, mae'n hiliaeth syml, fel y mae arweinydd Plaid Cymru wedi'i ddweud—pobl yn ymddwyn yn fwriadol tuag at eraill ar sail lliw eu croen. Ond ceir anfantais i bobl o'r cymunedau hynny sy'n llai amlwg na hynny—nid hiliaeth ydyw yn yr ystyr fwriadol honno, ond mae'n rhan annatod o'r ffordd y mae sefydliadau'n gweithredu ac y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud. Ac mae'r ffordd y mae'n amlwg bod pobl dduon wedi cael eu heffeithio'n andwyol gan argyfwng y coronafeirws, yn fy marn i, yn frigiad amlwg o'r anfanteision strwythurol sylfaenol hynny, ac mae'n rhaid i ni allu mynd i'r afael â nhw yma yng Nghymru, fel y mae angen mynd i'r afael â nhw mewn mannau eraill.