Part of the debate – Senedd Cymru am 11:10 am ar 3 Mehefin 2020.
Llywydd, gadewch i mi gywiro arweinydd yr wrthblaid ar rywbeth a ddywedodd, a gobeithio na fydd ef na'i gyd-Aelodau yn parhau i ailadrodd rhywbeth nad yw'n wir o gwbl: nid oes unrhyw reol am 5 milltir yng Nghymru. Pe byddai rheol, byddai honno wedi bod yn y rheoliadau. Ceir canllaw, cyfarwyddyd bras i bobl yng Nghymru ddeall yr hyn y gallai 'lleol' ei olygu, ac rwyf i wedi dweud dro ar ôl tro mai cyfrifoldeb pobl yw dehongli, mewn ffordd synhwyrol, yr hyn y mae 'lleol' yn ei olygu yn eu daearyddiaeth unigol hwy eu hunain, gan ei bod yn anochel bod 'lleol' yn wahanol mewn dinas fel Caerdydd, lle bydd 5 milltir yn mynd â chi i filoedd o wahanol aelwydydd, a'r hyn y gallai ei olygu mewn rhan wledig o Gymru.
Y cyngor gwyddonol yw aros yn lleol, ac rydym ni'n gwybod bod aros yn lleol yn bwysig iawn gan ei fod yn atal y feirws rhag lledaenu o un gymuned i'r llall. Mae'r rheol 5 milltir fras yno am yr union reswm o ddiogelu pobl yn ngorllewin a gogledd pellach Cymru oddi wrth pobl o fannau lle mae'r feirws wedi lledaenu'n fwy rhag teithio i'r cymunedau hynny a dod â'r feirws gyda nhw. Bydd arweinydd yr wrthblaid yn gwybod yn iawn pa mor bendant y mae pobl yn yr ardaloedd hynny wedi bod ynglŷn â'u hamddiffyn rhag ymwelwyr sy'n dod i'r ardaloedd hynny a'u rhoi mewn perygl. Mae'r neges 'aros yn lleol' yn diogelu unigolion ac eraill, ac mae'r canllaw 5 milltir—a dyna beth yw ef; nid rheol yw hi, ond canllaw—yno i ddiogelu'r cymunedau hynny yng nghefn gwlad Cymru rhag pobl sy'n credu fel arall ei bod hi'n iawn teithio mewn niferoedd mawr o'r tu allan i'r ardaloedd hynny, ac er mwyn osgoi'r golygfeydd sy'n peri gofid yr ydym ni wedi eu gweld dros y ffin lle nad yw'r cyngor synhwyrol hwnnw yn cael ei roi.