Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 12:09 pm ar 3 Mehefin 2020.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae marwolaeth George Floyd yn drychineb. Caiff effeithiau'r achos hwn eu teimlo yn fyd-eang, ac nid yw Cymru yn rhydd rhag hiliaeth. Mae'n rhaid i ni barhau i'w wynebu. Mae ein rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant a chydlyniad cymunedol yn ymgorffori ymgysylltiad agos â chymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig er mwyn meithrin cysylltiadau da a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru.