Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 3 Mehefin 2020.
Efallai ei bod yn werth i mi nodi bod y cyhoeddiad am warchod wedi dod yn dilyn cyngor gan y prif swyddog meddygol. Felly, nid oedd hwn yn achos lle penderfynais fy mod i eisiau newid y categori ac felly gwneud hynny heb unrhyw dystiolaeth na chyngor. Roeddem yn credu ein bod yn mynd i fod mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiad unedig gyda gwledydd eraill y DU, ond yna newidiodd yr amserlen ar gyfer hwnnw. Gwnaethpwyd y cyhoeddiad yn Lloegr ar nos Sadwrn, pan oeddwn yn disgwyl y byddai wedi bod yn hwyrach. Byddem yn sicr wedi gallu ei wneud ar brynhawn Sul. Dyna oedd fy nisgwyliad, a byddem wedi cael nid yn unig dydd Sadwrn i fod yn barod, ond wedyn dydd Sul i gyd i siarad â rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl mewn llywodraeth leol—nid llywodraeth leol yn unig, wrth gwrs, ond y galwedigaethau gofal iechyd sy'n gofalu am bobl, ac amrywiaeth o rai eraill—i nodi bod newid ar y ffordd ac i nodi beth ydoedd.
Pan wnaethpwyd y cyhoeddiad yn Lloegr, i bob pwrpas, drwy erthygl papur newydd a aeth ar-lein nos Sadwrn, a chefais alwad ffôn anarferol ac annisgwyl ar nos Sadwrn i ddweud wrthyf fod hynny wedi ei gyhoeddi, yna cefais ddewis eithaf amlwg i'w wneud, ac roedd y ddau ddewis yn anniben. Y cyntaf oedd ceisio gweithredu yn ôl y bwriad a gwneud cyhoeddiad yn ail hanner dydd Sul, a fyddai wedi golygu'n anorfod y byddem wedi cael cwestiynau am yr hyn yr oeddem yn ei wneud yn ystod hanner cyntaf y Sul, ac rwy'n credu y byddai hynny wedi ein rhoi mewn sefyllfa chwerthinllyd lle, er i ni ddweud wrth randdeiliaid i baratoi ar gyfer cyhoeddiad, byddem yn dweud wrth y wasg, 'Dim sylw. Nid oes gennym unrhyw beth i'w ddweud', a byddai hynny wedi bod yn chwerthinllyd. Erbyn hynny, byddai ansicrwydd eisoes wedi bod ymhlith pobl a warchodir, eu teuluoedd a'u ffrindiau, yn ogystal â phobl sy'n darparu gofal a chymorth iddyn nhw yng Nghymru, ynghylch pa un a oeddem am wneud cyhoeddiad yng Nghymru ai peidio. Felly penderfynais-ac, unwaith eto, fy mhenderfyniad i oedd gwneud hyn-y dylem wneud ein cyhoeddiad fore'r dydd Sul. Nid yw'n ddelfrydol gwneud y cyhoeddiad hwnnw drwy ddatganiad i'r wasg pan nad oedd y datganiad ysgrifenedig ar gael a heb ei gwblhau tan yn ddiweddarach yn y dydd. Fel y dywedais, roedd yn anniben, ond fy marn i oedd mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud, yn hytrach na threulio'r bore yn esbonio pam nad oeddem yn mynd i wneud unrhyw beth ac osgoi cwestiynau.
Byddai'n well gennyf i, wrth i ni adolygu'r categori gwarchod a'r gefnogaeth a roddir iddyn nhw ledled y DU, nid dim ond yng Nghymru, ein bod yn gallu gwneud hynny drwy sgwrs agored rhwng prif swyddogion meddygol ac yn wir y pedair adran iechyd, a gwn fod hynny'n farn a rennir gan gydweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU. Ar gyfer y bobl a warchodir yng Nghymru, bydd y prif swyddog meddygol yn ysgrifennu'n uniongyrchol. Mae llythyrau'n cael eu hargraffu a byddant yn dechrau cael eu hanfon yfory. Byddant yn clywed yn uniongyrchol ganddo am ddyfodol y categori gwarchod. Gall pobl ddisgwyl i'r gwarchod hynny ddigwydd am o leiaf ychydig fisoedd eto. Bydd yn nodi manylion hynny, a bydd hefyd yn arwain y gynhadledd i'r wasg yfory i siarad yn uniongyrchol â'r cyhoedd, ond gall yr Aelodau ddisgwyl gweld copi o'r llythyr a fydd yn mynd i'ch etholwyr hefyd. Byddaf yn sicrhau bod hynny'n cael ei ddarparu i chi gan ei fod yn barod ac wedi'i gymeradwyo. Gwnaethom ni hynny o'r blaen. Gallwch ddisgwyl gweld hynny eto, oherwydd gall Aelodau mewn etholaethau a rhanbarthau o bob plaid ddisgwyl i etholwyr gysylltu i ofyn beth sy'n digwydd. Felly, rwy'n credu ei fod yn bwysig eich bod yn gweld testun y llythyr hwnnw.
O ran eich pwynt am y cymorth, fel yr wyf wedi egluro ar sawl achlysur, ac rwy'n falch o wneud hynny yn awr ar gofnod yn y Senedd, yr unig newid a wnaed yw bod pobl a warchodir bellach yn cael gwybod y gallant fynd allan, os ydyn nhw'n dymuno, i wneud ymarfer corff ac i weld un teulu arall gan gadw pellter cymdeithasol. Dyna'r unig newid yr ydym yn ei wneud-felly, gweld pobl y tu allan, mynd allan i wneud ymarfer corff. Mae pob mesur arall yn ei le, felly rydym ni'n dweud wrth unigolion a warchodir, 'Peidiwch â mynd i wneud eich siopa eich hunan. Peidiwch â mynd i mewn i siop i wneud hynny.' Rydym ni'n dweud wrth unigolion a warchodir, 'Os na allwch chi weithio o gartref, peidiwch â mynd i weithle gyda phobl eraill, oherwydd mae'r risgiau o fod mewn amgylchedd dan do yn dal yn sylweddol'. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, ein bod yn parhau i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwnnw o ran bwyd, felly, y blaenoriaethau ar gyfer dosbarthu archfarchnadoedd, y bobl hynny sy'n mynd â'r bocsys bwyd, mae'r cymorth hwnnw ar gael o hyd, ac mae'n cynnwys pethau eraill fel darparu meddyginiaethau hefyd. Felly, mae'r cymorth hwnnw i gyd yn dal ar waith, ond, ar gyfer unigolion a warchodir, y gallu i fynd allan nawr, y cyngor o'r blaen oedd i beidio â mynd allan ar gyfer ymarfer corff y tu allan i'ch cartref eich hun, mae hynny wedi newid, ac rwy'n credu bod hwnnw'n fater pwysig i unigolion a warchodir. Ond efallai y bydd angen i ni ailedrych ar hynny. Os bydd hyn yn mynd i mewn i fisoedd y gaeaf, yn yr hydref, efallai y byddwn mewn sefyllfa lle bydd angen i'r cyngor hwnnw newid eto, ac mae'n atgyfnerthu fy mhwynt ein bod yn bell o fod yn gweld diwedd y coronafeirws.