Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 3 Mehefin 2020.
Bydd bron pob un dysgwr yn cael cyfle i fynychu ei ysgol. Rwy'n disgrifio hyn fel cyfle i gydweithio ar gyfer disgyblion er mwyn iddyn nhw allu dod i'r ysgol, dal ati i ddysgu a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi. Rwy'n cydnabod y gallai bod angen i rai dysgwyr a warchodir ddefnyddio ddulliau digidol.
Rwyf hefyd yn cynnig bod ysgolion yn agor am wythnos ychwanegol, gan gau ar 27 Gorffennaf, ac y bydd yr wythnos hon o wyliau yn cael ei throsglwyddo i dymor yr hydref. Mae hyn yn caniatáu mwy o amser cyswllt i ysgolion cyn yr haf ac yn rhoi egwyl ychwanegol yn nhymor yr hydref sy'n debygol o fod yn hir ac yn heriol.
Yn ymarferol, byddwn yn disgwyl i ysgolion gymryd nifer llai o ddysgwyr bob dydd yn dibynnu ar eu capasiti unigol eu hunain, gan sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol priodol. Disgwylir y bydd hyn yn golygu na fydd mwy na thraean o'r disgyblion yn bresennol ar unrhyw un adeg, er fy mod yn cydnabod ei bod hi'n bosib na fydd rhai ysgolion yn gallu gweithredu yn y modd hwn.
Yn y cyfnod hwn, byddwn yn disgwyl i ysgolion ddefnyddio'r amser i gefnogi iechyd a lles dysgwyr a'u staff, a dyna ddylai fod eu blaenoriaeth bennaf; trafod gyda'r dysgwyr a'u cynorthwyo i fod yn barod ar gyfer dysgu ac ystyried y camau dysgu nesaf fel y bo'n briodol; i brofi'r gweithrediadau yn barod ar gyfer tymor yr hydref; a pharhau i feithrin hyder teuluoedd yn y modd gofalus iawn yr ydym yn ei ddilyn. Mae hwn yn gyfle i ddysgwyr a staff baratoi a dod i arfer â'r sefyllfa 'normal newydd' fel y bydd ym mis Medi.
Yn y dyfodol rhagweladwy, bydd dysgwyr yn cael cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Yn yr hydref, disgwyliaf y bydd yn rhaid i ysgolion barhau i ddarparu ar gyfer yr holl ddysgwyr sy'n gallu bod yn bresennol am lai o amser er mwyn cadw pellter cymdeithasol. A phan fyddant yn yr ysgol, bydd yn teimlo'n wahanol iawn, gydag amser cyrraedd, amser gadael ac amseroedd chwarae ar adegau gwahanol, gyda llawer mwy o amser yn cael ei dreulio yn yr awyr agored, pan fydd y tywydd yn caniatáu, ac mewn dosbarthiadau llawer llai. Fodd bynnag, rwy'n disgwyl iddyn nhw fwynhau amser diogel, pwrpasol gydag athrawon a chyd-ddisgyblion y maen nhw'n eu hadnabod yn dda.
Mae'n rhaid i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, boed yn Weinidog, yn rhiant neu'n bennaeth, gydbwyso risgiau bob amser. Yn y cyfnod presennol hwn, mae'n rhaid i bob un ohonom ni ystyried y posibiliadau o niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad i gynyddu gweithrediadau cyn gwyliau'r haf am nifer o resymau allweddol. Byddai aros tan fis Medi yn golygu na fyddai'r rhan fwyaf o blant wedi tywyllu ysgol ers o leiaf 23 wythnos, a chredaf y byddai hyn yn niweidiol i'w datblygiad, i'w dysgu ac i'w lles. Rwy'n argyhoeddedig mai dim ond drwy ddychwelyd i'w hysgolion eu hunain y byddwn yn gweld mwy o bresenoldeb gan ein plant mwyaf agored i niwed a difreintiedig.
Mae'n caniatáu inni fanteisio i'r eithaf ar y tywydd cynnes a'r heulwen, sy'n cael effaith bwysig o ran brwydro i atal trosglwyddo'r feirws. Mae'n sicrhau y bydd y system profi, olrhain a diogelu wedi bod ar waith am fis ac y bydd yn parhau i ehangu. A gallaf gadarnhau y bydd staff ysgol yn grŵp â blaenoriaeth yn ein rhaglen profi gwrthgyrff newydd, gan ddechrau gyda staff sydd wedi bod yn gweithio yn ein hybiau ar hyn o bryd. Ac, yn hollbwysig, mae'r wyddoniaeth sy'n esblygu yn dweud wrthym fod cynnydd sydyn o ran y feirws yn yr hydref yn bosibilrwydd real iawn. Gallem fod yn colli hyd yn oed mwy o amser dysgu, a byddai hyd yn oed yn waeth heb y cyfnod hwn yr wyf yn ei gynllunio heddiw.
Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod gan ysgolion y gefnogaeth briodol i weithredu ar hyn o bryd, ac rydym ni'n gweithio gyda chynghorau ac ysgolion i gael yr holl stoc hylendid angenrheidiol, mesurau diogelwch a chyfundrefnau glanhau yn barod. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyhoeddi canllawiau i gynorthwyo ysgolion i weithredu o dan yr amodau newydd hyn, ac i gefnogi dysgu. Bydd y canllawiau'n cael eu hadolygu a'u diweddaru dros yr haf er mwyn helpu ysgolion i baratoi ar gyfer yr hydref, yng ngoleuni'r profiadau hyn.
Ar gyfer addysg bellach, o 15 Mehefin, bydd colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn dechrau ailagor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb i grŵp cyfyngedig o fyfyrwyr a dysgwyr. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda cholegau a darparwyr hyfforddiant i gytuno ar grwpiau blaenoriaeth o ddysgwyr a fydd yn cael eu cynnwys yn y cyfnod ailagor cychwynnol hwn, gan ganolbwyntio ar y rhai y mae angen iddyn nhw ddychwelyd i'w coleg neu eu canolfan hyfforddi er mwyn parhau i wneud cynnydd gyda'u dysgu. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr y mae angen iddyn nhw gynnal asesiadau ymarferol i gwblhau eu cymwysterau, a'r myfyrwyr hynny sydd angen cymorth a chyfarwyddyd ychwanegol i aros ar y trywydd iawn ac i aros mewn addysg.
Bydd canllawiau ar gyfer darparwyr gofal plant hefyd yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos nesaf, gan eu cynorthwyo i gynyddu nifer y plant sy'n mynychu ochr yn ochr ag ysgolion.
Ar gyfer ysgolion, mae gennym ni dros dair wythnos bellach i barhau i gynllunio, ac i barhau i fod yn barod, ac yn hanfodol, i barhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles. Byddwn yn gweithio gyda'r proffesiwn i sicrhau y cânt eu cefnogi nawr ac yn yr hydref. Bydd penaethiaid yn cael y cyfle i weithio gyda'u staff mewn ysgolion i baratoi'n llawn ar gyfer disgyblion. Mae hefyd yn rhoi'r amser sydd ei angen ar gyrff llywodraethu a chynghorau i ddatblygu'r camau statudol angenrheidiol a'r asesiadau risg er mwyn cynorthwyo staff a disgyblion i ddychwelyd.
Rwy'n cydnabod bod hwn yn gyfnod pryderus iawn i ni i gyd, ac mae hynny'n parhau. Gwn y bydd llawer yn teimlo'n bryderus. Ond rwyf eisiau dweud nad ydym ni wedi rhuthro'r gwaith hwn na'r penderfyniad hwn. Mae'r cyfnod tair wythnos a hanner cyn y cyfnod nesaf hefyd yn rhoi amser i mi gadw golwg ar ddatblygiadau mewn mannau eraill, a rhoi cyfleoedd gwirio pellach i adolygu'r dystiolaeth, ac i wylio'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen profi ac olrhain yn llwyddiannus.
Dyma'r dewis ymarferol gorau sy'n bodloni fy mhum egwyddor. Drwy weithio gyda'n gilydd, rwy'n gwybod y byddwn yn sicrhau tegwch a rhagoriaeth i ddisgyblion wrth iddyn nhw ddod i'r ysgol, dal ati i ddysgu a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.