6. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 3 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:13, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Byddaf i'n gwneud fy ngorau i ymdrin â nhw i gyd. Yn sicr, nid ydym ni'n dymuno hepgor unrhyw grŵp o bobl, ac rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth beidio â gwneud hynny yn ystod cam cyntaf y camau digartrefedd yr ydym ni wedi eu cymryd. Fel y dywedais yn benodol iawn yn fy natganiad, mae nifer y bobl yr ydym ni wedi rhoi llety iddyn nhw yn cynnwys pobl nad oedden nhw'n cysgu ar y stryd, ond a oedd mewn llety ansefydlog iawn—llety dros dro, 'syrffwyr soffa' fel y'u gelwir.

Nid oes gennym ni wybodaeth am nifer y cyn-filwyr sydd wedi eu cynnwys gan nad ydym ni'n ei chasglu yn y ffordd honno, ond nid ydym ni'n ymwybodol o unrhyw bobl sydd wedi eu hepgor o hynny, ac rydym ni wedi bod yn cynnal ymgyrch i sicrhau bod pobl sy'n syrffio soffa yn cydnabod eu bod yn ddigartref ac yn cyflwyno eu hunain. Ac rydym ni wedi bod yn gwneud hynny yn fwriadol iawn er mwyn gwneud yn siŵr nad ydym ni'n wynebu nifer llethol ar ddiwedd y pandemig. Ac rydym ni wedi cael llif cyson o bobl yn cyflwyno'u hunain i gael cymorth drwy gydol cyfnod yr argyfwng hwn. Nid oedd hi'n nifer sefydlog ar y dechrau a oedd wedyn yn cael llety—mae pobl wedi bod yn cyflwyno'u hunain yn ddyddiol drwy gydol y pandemig ac rydym ni wedi gallu rhoi llety iddyn nhw o ganlyniad i weithio mor agos ac ar y cyd â nifer o bartneriaid, gan gynnwys ein hawdurdodau lleol—wel, ein hawdurdodau lleol yn bennaf. Hynny yw, mae'r bobl hynny yn cynnwys cyn-filwyr, wrth gwrs, ond maen nhw'n cynnwys pobl eraill sy'n cyflwyno eu hunain: dioddefwyr cam-drin domestig, pobl sy'n cael eu dadleoli o ganlyniad i deulu neu berthynas yn chwalu a nifer o bethau eraill—y pethau sy'n arwain at ddigartrefedd yn y lle cyntaf. Mae'r pethau hynny wedi parhau drwy gydol y pandemig ac mae ein partneriaid wedi camu i'r adwy o ran darparu llety ar gyfer yr holl grwpiau hynny, gallaf eich sicrhau, gan gynnwys cyn-filwyr. Ac, wrth gwrs, rydym ni yn gweithio yn agos iawn gyda nifer o grwpiau cyn-filwyr. Fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yw Gweinidog y lluoedd arfog, ac mae hi'n cael amrywiaeth o gyfarfodydd rheolaidd iawn gyda llawer o grwpiau cyn-filwyr, ac rwyf i fy hun wedi cwrdd â nifer ohonyn nhw hefyd; rydym ni'n ofalus iawn i ddeall yr amgylchiadau penodol.

O ran y cyflenwad tai, mae'n bosibl ar hyn o bryd i symud yng Nghymru os oes angen i chi wneud hynny oherwydd unrhyw amgylchiadau brys neu os, er enghraifft, na byddai eich trefniant gwerthu yn digwydd pe na byddech yn gwneud hynny. Rwyf i wedi ateb llawer iawn o ymholiadau gan bobl nad ydyn nhw wedi deall hynny, felly hoffwn i nodi hynny yn glir iawn. Yng ngham nesaf yr adolygiad—felly, fel y gwyddoch chi, rydym ni'n adolygu'r rheoliadau bob tair wythnos ac rydym ni'n dechrau gweithio arnyn nhw yr eiliad y mae'r adolygiad diwethaf ar ben—rydym ni'n edrych i weld beth arall y gallwn ni ei wneud yn y farchnad dai o ran pethau fel gallu mynd i weld eiddo gwag, caniatáu i bobl sy'n dymuno chwilio am denant ar gyfer eiddo gwag wneud hynny ac yn y blaen. Byddwn ni, mae'n debyg, rwy'n credu—wel, mae'r adolygiad ar y gweill, felly mae'n amhosibl dweud yn bendant—ond byddwn ni fwy na thebyg, rwy'n credu, yn aros cyn caniatáu i bobl weld eiddo sydd â thenantiaid neu sydd wedi eu meddiannu, a hynny am resymau amlwg, gan y bu nifer o broblemau dros y ffin yn hynny o beth. Ond rwy'n derbyn eich pwynt, Caroline. Yn amlwg, rydym ni'n awyddus i'r farchnad weithio.

Rwyf i hefyd yn poeni'n fawr am bobl sy'n rhentu sy'n canfod eu hunain mewn amgylchiadau lle nad ydyn nhw'n gallu fforddio eu rhent mwyach ac sy'n dymuno chwilio am rywle arall y gallan nhw ei fforddio, ein bod yn gallu hwyluso hynny cyn gynted ag y gallwn. Ac rwy'n manteisio ar y cyfle hwn i ddweud, drwy gydol yr argyfwng hwn, ein bod ni wedi gweithio yn galed iawn gyda phob un o'n landlordiaid cymdeithasol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n troi yr hyn a elwir yn 'unedau gwag', felly eiddo gwag, cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eu bod nhw ar gael fel tai parhaol i bobl y mae angen y tai hynny arnyn nhw, pa un a ydyn nhw'n dod trwy'r ffrwd ddigartrefedd neu oherwydd eu bod nhw'n denantiaid sy'n ystyried symud i lety gwahanol, mwy addas. Felly, rydym ni yn sicr wedi bod yn gwneud hynny.

O ran y cyflenwad tai, unwaith eto, mae gwaith adeiladu wedi ei ganiatáu cyn belled â'ch bod chi'n gallu cadw pellter cymdeithasol drwy gydol y cyfnod hwn ac mae llawer o waith adeiladu wedi parhau. Rydym ni yn sicr wedi gweld llawer o landlordiaid tai preswyl cymdeithasol, felly mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau yn parhau i adeiladu eu tai ac rydym ni'n gwybod bod nifer o fusnesau bach a chanolig yn parhau i adeiladu ar gyfer y farchnad honno oherwydd bod hynny'n rhoi llif arian parod iddyn nhw na fydden nhw wedi ei gael fel arall, ac rydym ni wedi bod yn annog hynny. Rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n siarad yn rheolaidd iawn â'r cymdeithasau adeiladwyr tai ynghylch eu hanghenion yn ystod yr argyfwng hwn a sut y gallwn ni gadw'r rhan honno o'r farchnad yn gweithredu.

Ac yna, o ran ein llwybr allan o'r argyfwng hwn, wrth gwrs, bydd pob un ohonoch chi wedi fy nghlywed i'n siarad am yr angen i sicrhau adferiad gwyrdd wedi ei arwain gan dai ac rydym ni'n awyddus iawn i wneud hynny i sicrhau ein bod ni'n adeiladu'r tai cymdeithasol sydd eu hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol yng Nghymru fel ein bod yn sicrhau bod digartrefedd yn wirioneddol anghyffredin, dim ond am gyfnod byr ac nad yw'n cael ei ailadrodd.