6. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 3 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:45, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd o bob math yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Er mwyn sicrhau na fyddai neb wedi ei adael heb lety a chefnogaeth yn ystod yr argyfwng hwn roedd y flaenoriaeth honno yn fater o hyd yn oed mwy o frys. Ym mis Mawrth, ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, cymerais gamau cynnar i ddarparu £10 miliwn o arian ychwanegol a chanllawiau clir ynghylch sut y dylid gwarchod a chefnogi pobl. Rwy'n falch o'n hymateb yng Nghymru; mae'r camau pendant a thosturiol y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi eu cymryd, mewn partneriaeth ag iechyd, y trydydd sector, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a sefydliadau gwirfoddol, i ddod â phobl i mewn o'r strydoedd yn ddiau wedi achub bywydau.

Mae ein hymdrechion ar y cyd wedi sicrhau bod pawb wedi eu cynnwys yn y mesurau a gynlluniwyd i amddiffyn pobl a chymunedau. Mae dros 800 o bobl wedi cael llety a chymorth brys ers dechrau'r cyfyngiadau symud. Yn flaenorol, roedd llawer yn cysgu ar ein strydoedd, roedd eraill yn ddiymgeledd gan nad oedd hawl ganddyn nhw i gael arian cyhoeddus, ac roedd llawer yn ddigartref cudd, yn byw yn ansefydlog fel syrffwyr soffa neu mewn llety dros dro anaddas.

Mae awdurdodau lleol wedi cefnogi pobl sy'n wynebu digartrefedd i fyw mewn llety diogel a sefydlog, efallai am y tro cyntaf yn eu bywydau, ac wedi helpu pobl i ddechrau ymddiried mewn gwasanaethau nad ydyn nhw erioed, neu ddim ond prin iawn, wedi ymgysylltu â nhw o'r blaen, a hynny i gyd mewn dim ond ychydig o wythnosau byr. Mae'r ymateb i'r argyfwng hwn wedi ein tynnu yn nes at ein gilydd mewn sawl ffordd, gan gydnabod ein pwrpas cyffredin cytûn, ond hefyd yn agosach at gyflawni ein gweledigaeth o wneud digartrefedd yng Nghymru yn brin, dim ond am gyfnod byr a heb gael ei ailadrodd.

Rydym yn ymwybodol iawn nad yw darparu llety dros dro yn rhoi terfyn ar ddigartrefedd. Mae yn rhoi cyfle unigryw i ni harneisio'r creadigrwydd, yr arloesedd, y cydweithredu a'r parodrwydd i weithio mewn modd gwahanol er mwyn gwneud newid hirdymor, cynaliadwy a sylfaenol i wasanaethau digartrefedd yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi cyfle unigryw i ni weddnewid bywydau pobl.

Ni allwn lithro yn ôl o'r cynnydd enfawr yr ydym ni wedi ei wneud. Mae'n rhaid i ni weithio i sicrhau bod pobl sy'n wynebu digartrefedd yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag y feirws, eu bod nhw wedi eu cynnwys mewn unrhyw fesurau diogelu iechyd y cyhoedd a fydd yn parhau neu rai newydd a fydd yn cael eu cyflwyno, ac nad oes unrhyw un yn cael ei orfodi i ddychwelyd i'r strydoedd nac unrhyw fath arall o ddigartrefedd. Cyhoeddais yr wythnos diwethaf gyllid ychwanegol o hyd at £20 miliwn, refeniw a chyfalaf, i gefnogi cam nesaf ein hymateb i ddigartrefedd yng nghyd-destun COVID-19.

Rydym yn gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi cynllun cam 2 sy'n nodi sut y bydd yn sicrhau nad oes angen i neb ddychwelyd i'r stryd, gan ganolbwyntio ar arloesi, adeiladu ac ailfodelu er mwyn gweddnewid y cynnig llety ledled Cymru. Heddiw, rwyf i wedi cyhoeddi dogfen fframwaith i bennu disgwyliadau clir a chynorthwyo awdurdodau lleol a'u partneriaid i ddatblygu eu cynlluniau cam 2. Mae'r ddogfen fframwaith wedi ei seilio yn gadarn ar yr argymhellion a gefais gan y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd ychydig cyn y cyfyngiadau symud. Rwyf i unwaith eto yn ddiolchgar iawn am eu cyfraniad arbenigol a'u hymgysylltiad parhaus â'r gwaith hwn.

Nid dim ond yn gofyn i eraill ddiwygio'r ffordd y maen nhw'n gweithio yr ydym ni; rydym ni'n diwygio ein ffyrdd ninnau o weithio hefyd. Rydym ni wedi elwa'n fawr iawn ar y cydweithio agos a fu rhwng fy swyddogion ac awdurdodau lleol yn ystod y cam cyntaf hwn. Rwy'n gwybod bod awdurdodau wedi croesawu'n gadarnhaol yr ymgysylltiad agosach a'r cymorth; mae wedi helpu i nodi a datrys problemau yn gyflym, ac mae'n llywio datblygiad polisi gwell. Rydym yn bwriadu dysgu ac adeiladu ar y gwaith agosach hwn yn y cam nesaf, gan helpu i ddatblygu'r cynlluniau, a sicrhau y gallwn ni ddechrau eu rhoi ar waith yn gyflym o fis Gorffennaf ymlaen.

Bydd y cymorth hwn yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu hefyd i gefnogi awdurdodau lleol a'u partneriaid. Cymerais ran yn y digwyddiad lansio yr wythnos diwethaf a chefais fy nghalonogi gan yr ymateb cadarnhaol, a chlywed am y gwaith a'r cynllunio arloesol, amlasiantaeth sydd eisoes ar y gweill mewn rhai ardaloedd ledled Cymru.

Ein nod ar y cyd yw sicrhau bod pawb yr ydym ni wedi rhoi llety dros dro iddyn nhw yn cael cymorth i lety hirdymor. Mae hyn yn gofyn am ymdrech ar y cyd. Fel yr wyf wedi ei ddweud droeon, nid mater tai yn unig yw digartrefedd; mae'n fater gwasanaeth cyhoeddus ac mae'n galw am ymateb ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Ein nod yw gweddnewid ein hymagwedd gyfan at ddarpariaeth digartrefedd fel bod y rhai sy'n cyflwyno eu hunain fel pobl ddigartref bob dydd yn cael profiad o system sy'n canolbwyntio ar atal gwirioneddol.

Yn y cam nesaf hwn, rwyf i'n disgwyl gweld creadigrwydd, partneriaeth a pharodrwydd i fuddsoddi yn y rhaglenni hyn, a fydd yn cyflwyno arbedion a manteision hirdymor i'n gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â'r potensial i weddnewid bywydau'r bobl dan sylw. Mae'n rhaid i arloesi, ailfodelu ac adeiladu fod yn sylfaen i'r ffordd yr ydym yn ymdrin â digartrefedd, yn ei atal ac yn rhoi terfyn arno yng Nghymru.

Nodais y llynedd yn ein strategaeth digartrefedd ddiwygiedig, ein nod o symud i ffwrdd o atebion llety dros dro ac addasu dull ailgartrefu cyflym—mabwysiadu, ddylwn i ddweud, dull ailgartrefu cyflym. Mae gennym ni gyfle i symud yn gyflymach i weithredu'r strategaeth hon. Yn y cam nesaf hwn, rydym yn gofyn i awdurdodau lleol ymrwymo i, a chynllunio sut i symud yn gyflym oddi wrth y defnydd o lochesi nos a lle ar lawr a dulliau lle mae angen adnoddau sylweddol, yn enwedig gan y sector gwirfoddol, i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd.

Rydym yn gofyn iddyn nhw flaenoriaethu cynlluniau ailgartrefu cyflym a hirdymor, wedi eu hategu gan ddarpariaeth frys o ansawdd gwell. Rydym yn canolbwyntio ar roi cymorth cyflym i bobl fynd yn ôl i dai parhaol, gan ddarparu dewisiadau dros dro urddasol o ansawdd uchel a bod yn glir bod gwasanaethau stryd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer allgymorth grymusol proffesiynol sy'n canolbwyntio ar ddatrys digartrefedd. Mae'r cam nesaf hwn yn ymwneud â mwy na dim ond sicrhau nad oes angen i neb ddychwelyd i gysgu ar y stryd, mae hefyd yn ymwneud â gweddnewid.

Mae'r cynllun hwn yn uchelgeisiol iawn, a hynny'n briodol. Mae'n ein herio ni i gyd i feddwl, cynllunio a gweithio'n wahanol. Mae'r buddsoddiad newydd yr wyf i wedi ei gyhoeddi i gefnogi'r cynllun hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad ni fel Llywodraeth Cymru i arwain a buddsoddi yn yr hyn yr ydym ni'n credu ynddo. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a'u partneriaid fuddsoddi, gan ddefnyddio cyllid a grantiau presennol, a benthyca trosoledd. Buddsoddiad ar gyfer y tymor hir yw hyn.

Mae'r ychydig wythnosau diwethaf wedi dangos i ni gymaint yn fwy na'n rhannau unigol y gallwn ni fod pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd. Rwyf i'n llawn cyffro ynghylch y cyfle sydd gennym ger ein bron. Bydd yn her, ond ar sail yr hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni gyda'n gilydd hyd yma, rwyf i'n ffyddiog y gallwn ni newid yn sylweddol erbyn hyn i gyflawni ein nod o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Diolch.