Part of the debate – Senedd Cymru am 12:30 pm ar 17 Mehefin 2020.
Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn heddiw yn cael ei gynnal drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw ac mae'r rhain wedi eu nodi ar eich agenda. Dwi eisiau hefyd atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod yma.