Part of the debate – Senedd Cymru am 1:06 pm ar 17 Mehefin 2020.
Mae plac glas amlwg ar wal cartref dirodres yng Nghasnewydd yn darllen fel a ganlyn: 'Mohammad Asghar, ganwyd 30 Medi 1945, aelod o Gynulliad Cymru, cyfrifydd a pheilot, yma'n byw ers 1994.' A byddai'r rhai sydd wedi ymweld â chartref y teulu Asghar yn gweld yn fuan bod Oscar yr holl bethau hynny a ddisgrifiwyd ar y plac hwnnw ond ei fod hefyd yn llawer mwy.
Roedd yn ŵr ffyddlon i Firdaus, ac yn dad cariadus i'w ferch, Natasha, ac fe garai'r ddwy yn fawr ac fe siaradai amdanynt yn aml iawn. Roedd yn ddyn o ffydd, haelioni a gonestrwydd mawr. Ac roedd e, os yw'n bosib bod yn hyn, yn ymgorfforiad perffaith o'r Gymanwlad. Ef oedd y deiliad mwyaf ffyddlon y gallai ei Mawrhydi y Frenhines erioed fod wedi gobeithio amdano.
'Mr Asghar' i rai, 'Oscar' neu 'Ewyrth Oscar' i eraill, ac i mi—cyfaill triw a chyd-Aelod gwerthfawr. O'r eiliad y buom yn mwynhau ein cyri cyntaf gyda'n gilydd yn ystod trafodaethau am ei ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig, daethom yn gyfeillion a thros y 13 mlynedd yr adwaenwn i Oscar, ni chawsom erioed air croes, sydd, fel y bydd y rhai ohonoch sy'n fy nabod yn tystio, yn dipyn o gamp. Fe wnaethom ni fwynhau llawer i sgwrs fynwesol ar faterion ffydd, teulu a gwleidyddiaeth. Roeddem ni'n teithio gyda'n gilydd, roeddem ni'n rhannu prydau gyda'n gilydd ac yn chwerthin llawer gyda'n gilydd.
Fel sy'n wir am aelodau eraill o'r Senedd hon, roedd rhai o'm hatgofion anwylaf am Oscar yn ystod ymweliad y Ceidwadwyr Cymreig â'r Wlad Sanctaidd. Nid oedd mwy o gefnogwr i Israel ac eiriolwr heddwch yn y dwyrain canol nag Oscar. Er ein bod ni ein dau yn dod o wahanol draddodiadau ffydd, gweddïodd Oscar a minnau'n gyda'n gilydd am heddwch Jerwsalem ger y Wal Orllewinol a gweddïo hefyd dros deuluoedd ein gilydd wrth i ni eistedd, fraich ym mraich a gyda dagrau yn ein llygaid, yn Eglwys Sant Pedr, sy'n sefyll ymhlith adfeilion tref Feiblaidd Capernaum, ar lannau Môr Galilea.
Yn ystod y daith honno, buom hefyd yn ymweld â thref Balesteinaidd fodern Rawabi, syniad yr entrepreneur enwog a'r Palesteiniad Bashar Masri. Roedd y grŵp wedi trefnu i gwrdd â Bashar mewn caffi chwaethus, a chadeiriwyd y cyfarfod gan Oscar. Gwnaeth waith rhagorol, aeth y cyfan yn rhyfeddol o dda, ac ar ôl y cyfarfod, aethom i gyd yn ôl i'r bws mini, a oedd yn aros i'n hebrwng i'n hapwyntiad nesaf. Ond fel yr oeddem ar fin gadael, fe sylweddolom ni fod rhywun ar goll. Ac ar ôl galw cofrestr, sylweddolom, fel sy'n digwydd yn aml, mai Mark Isherwood ydoedd. Edrychodd Oscar arnaf gydag awgrym o bryder ar ei wyneb, 'ble mae e?', gofynnodd. Ymatebais, 'Mae'n debyg ei fod yn egluro cymhlethdodau fformiwla Barnett a'r fframwaith cyllidol i Gymru i'r gweinydd Arabaidd, Oscar.' Ac wrth glywed hynny, dechreuodd Oscar chwerthin yn afreolus i'r graddau ei fod yn edrych fel plismon llon ar y promenâd mewn tref glan môr yng Nghymru.
Roedd ei chwerthin, wrth gwrs, yn heintus ac erbyn i Mark Isherwood gyrraedd y bws mini o'r diwedd, roeddem i gyd yn sychu'r dagrau o'n llygaid. A dyna'r Mohammad Asghar, dyna'r Oscar, dyna'r cyfaill a chyd-Aelod y byddaf bob amser yn ei gofio. Felly, gyd-Aelodau, nid yw'r plac glas ar y tŷ bychan hwnnw yng Nghasnewydd yn gwneud unrhyw gyfiawnder o gwbl â'r Oscar yr oeddem ni i gyd yn ei adnabod. Gadewch i ni obeithio y bydd, yn y dyfodol, ryw fath o gofeb fwy addas, parhaol mewn man cyhoeddus amlwg i'r dyn mawr hwn a'r cyfraniad enfawr y mae wedi'i wneud i fywyd cyhoeddus Cymru.