Part of the debate – Senedd Cymru am 1:13 pm ar 17 Mehefin 2020.
Roedd clywed y newyddion ddoe fod Oscar wedi ymadael â ni yn hollol annisgwyl. Fel un a ddaeth i'r Cynulliad ar yr un pryd ag Oscar yn 2007, credaf y bu ein teithiau gwleidyddol yn sicr yn cydblethu ers hynny. A minnau wedi bod yn arweinydd am saith mlynedd o'r cyfnod yr oeddem gyda'n gilydd yn y Cynulliad, roedd y sylwadau a wnaeth Adam Price yn sôn amdano fel ysbryd rhydd gwleidyddol yn rhywbeth a arferai fy ngwneud yn chwithig braidd yn y Siambr, oherwydd yn aml iawn byddwn yn eistedd o'i flaen, a byddech bob amser yn gwybod pan oedd Oscar yn dechrau traethu pan ddywedai, 'Yr hyn ydyw— ', ac yna'n sydyn iawn, am dair neu bedair munud, byddem yn clywed athroniaeth wleidyddol Oscar, a oedd yn ddieithriad yn rhan o'i angerdd a'i ymrwymiad i wella bywydau pobl.
Gallai Oscar, fel fi, lurgunio'r Saesneg—gadewch i ni fod yn realistig am hynny—ac rwyf innau mor euog ag unrhyw un sy'n gwneud hynny i'r iaith Saesneg. Ond yr hyn a oedd gan Oscar mewn tomenni oedd angerdd ac ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus. Roedd yn credu mewn gwella bywydau pobl, credai mewn defnyddio ei brofiadau ei hun trwy fywyd, fel y clywsom ni yn y dystiolaeth heddiw gan Aelodau eraill, o ymrannu’r India bob cam i redeg busnesau, i gefnogi pobl yn eu ffydd ac yn awr eu hangen, a cheisio pontio'r rhaniad rhwng grwpiau gwleidyddol a grwpiau crefyddol. Roedd Oscar yn ymgorfforiad o was cyhoeddus da a graslon.
Rwy'n mentro dyfalu—gobeithio, pan fyddwn yn dychwelyd—y gallai cadw pellter cymdeithasol fod wedi bod yn her i Oscar, oherwydd ei fod yn un o'r bobl hynny a oedd wir eisiau rhoi ei freichiau amdanoch mewn ffordd gadarnhaol, pa un a oedd y felan arnoch a bod angen codi eich calon arnoch chi, neu dim ond rhyw fath o emosiwn gwirioneddol ynglŷn â rhywbeth yr oeddech chi wedi ei wneud. Rwy'n teimlo dros Natasha a Firdaus heddiw, a thros y dyddiau nesaf. Mae colli rhywun mor arbennig ac mor annatod o'ch teulu yn ergyd chwerw, chwerw. Ond yr hyn yr wyf yn ei obeithio'n angerddol yw, yn y dyddiau, yr wythnosau a'r misoedd nesaf, y bydd heulwen y llu o atgofion hapus a dymunol a fydd gennych chi ohono yn eich cysuro yn yr oriau tywyll hynny, oherwydd, fel ninnau yn Aelodau, byddwn ninnau hefyd yn cael cysur mawr o allu dweud ein bod yn gyfeillion, yn gyd-Aelodau ac yn gyd-gyfranogwyr yng Nghynulliad Mohammad Asghar. Ac rwy'n ei ystyried yn bleser ac yn fraint fawr o fod wedi treulio fy amser yn y Cynulliad ac wedi gallu galw Mohammad Asghar nid yn unig yn gyd-Aelod gwleidyddol, ond yn gyfaill.