Part of the debate – Senedd Cymru am 1:17 pm ar 17 Mehefin 2020.
Mae pawb yn cael dyddiau gwael, ond nid oedd Oscar yn un i adael i chi deimlo'n isel yn hir. Yn wir, byddai'n dda gennyf pe bai yma heddiw, mewn gwirionedd, oherwydd gallem wneud gyda'i gymorth i fynd drwy un o'n dyddiau gwaethaf, mi gredaf. Bob bore, pan oedd cyfarfod llawn, byddem yn cwrdd wrth y lifft a byddwn bob amser yn cael rhyw fath o gyfarchiad neu gwtsh, neu lysenw annwyl, a'r wên honno y byddech chi'n ei chael—na allech chi ei hanwybyddu, na allech chi, mewn gwirionedd? Rydym ni i gyd yn gwybod sut deimlad oedd hynny. Ac roedd yn amlygu'r haelioni hwnnw y mae cynifer o bobl eisoes wedi sôn amdano heddiw.
Ond, y tu hwnt i'r haelioni hwnnw, roedd ganddo ymdeimlad cryf iawn o ddiolchgarwch hefyd. Ac rwy'n cofio, ar y daith honno i Israel y mae eraill wedi sôn amdani, inni aros mewn bwyty a oedd yn cael ei redeg gan deulu Drusaidd, a'r tro hwn, Oscar, mewn gwirionedd, oedd yn hwyr yn cyrraedd y bws mini, nid Mark, a'r rheswm am hynny oedd ei fod wedi aros ger stondin y tu allan i'r bwyty dan ofal gwraig oedrannus, ac roedd yn llawn o blanhigion anniben iawn ac ychydig o fêl gwenyn yr hen wraig. Ac roedd yn benderfynol o gael y mêl hwnnw, nid yn unig i ddiolch i'w westeiwyr, oherwydd roedd y wraig hon yn aelod o'r teulu hwnnw, ond i anrhydeddu crefft yr hen wraig.
Roedd yn gweld crefyddau pobl eraill, fel y clywsom ni gan eraill heddiw, yn gwbl gyfareddol, ac roedd ei benderfyniad i ddod â phobl o wahanol gredoau ac arferion gwahanol at ei gilydd yn enghraifft o angerdd didwyll a phriodol. A chan fy mod i wedi bod yn ceisio deall mwy fy hun am gredoau Mwslimaidd a gwahaniaethau rhwng cymunedau gwahanol, roedd Oscar bob amser yn hapus iawn i siarad â mi a rhannu ei wybodaeth. Ac roedd mor glir pa mor bwysig oedd ei ffydd ei hun iddo, ac, wrth i mi ddysgu mwy am yr hyn sy'n cyfrif mewn bywyd Mwslimaidd, dysgais fwy am Oscar, rwy'n credu—cymaint yr effeithiodd ar bopeth yr oedd yn meddwl amdano. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi clywed cymaint am ei gariad at ei wraig a'i ferch, a daw hynny nid yn unig o'i bersonoliaeth naturiol, ond o'r gwerthoedd, y gwerthoedd rhadlon yr oedd yn eu coleddu ac a ddangoswyd ganddo lle bynnag yr oedd, mewn gwirionedd.
Ac os wyf eisiau meddwl amdano pan oedd fwyaf llawen ac wedi ei gyffroi fwyaf ac wedi ei gyffwrdd fwyaf, rwyf eisiau mynd yn ôl i'r diwrnod hwnnw a dreuliodd pob un ohonom ni yn Jerwsalem y bu i Angela ei grybwyll, oherwydd, yn gynharach y diwrnod hwnnw, roeddem ni wedi bod yn Yad Vashem, ac roedd Oscar wedi bod gyda ni mewn seremoni ger y fflam dragwyddol yno. Ond diflannodd wedyn am rai oriau, ac roeddem yn pendroni ynghylch i ble yr oedd wedi mynd. Beth bynnag, daeth yn ôl atom, a chlywsom y bu yn al-Aqsa yn Haram al-Sharif, Mynydd y Deml, sydd wrth gwrs yn un o leoedd mwyaf sanctaidd Islam. A'r llawenydd yn ei wyneb pan ddaeth yn ôl, wel, roedd yn rhannu'r llawenydd â ni—bydd y rhai ohonoch chi a oedd yno yn cofio hynny. Mae sut y llwyddodd i fynd i mewn yn un o straeon hudolus Oscar, wrth gwrs. Ond mae'r diwrnod hwnnw yn fy atgoffa ein bod heddiw nid yn unig yn ffarwelio â'n Oscar, â'n hewythr Oscar, ond â Mohammad, a oedd yn gyfaill i'r ddynoliaeth.