Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon y prynhawn yma drwy ddiolch i staff ein pwyllgor, y tystion a gyfrannodd at yr ymchwiliad byr hwn, a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor? Rwy'n credu y byddai pob un ohonynt yn dymuno i mi ddweud bod y staff wedi bod yn rhagorol yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Pan fydd hanes yr amser hwn yn cael ei ysgrifennu, credaf y bydd gwaith rhagorol a chlodwiw staff y Senedd i sicrhau bod ein democratiaeth yn parhau ar yr adeg anodd hon yn haeddu pennod ei hun fan lleiaf.
Mae gan y Llywodraeth beth amser cyn y bydd yn ofynnol iddi ymateb i'n hadroddiad wrth gwrs, ac rydym yn ddiolchgar eisoes i'r Dirprwy Weinidog am y ffordd y mae wedi ymgysylltu â'r pwyllgor a'r wybodaeth y mae wedi'i darparu. Ond roeddem am gyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod heddiw oherwydd natur frys yr argyfwng a wynebir gan y sector celfyddydau.
Gwyddom, er enghraifft, fod Canolfan Mileniwm Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn aros ar gau tan fis Ionawr, gan roi 250 o swyddi mewn perygl o bosibl. Ac er bod y cymorth a ddarparwyd eisoes gan gyngor y celfyddydau wedi'i groesawu, a bod rhai lleoliadau wedi gallu manteisio ar ffynonellau cymorth eraill fel y cynllun cadw swyddi, mae'n amlwg y bydd hi'n beth amser cyn y gall pob lleoliad agor, a phan allant wneud hynny, gallai fod yn anodd iddynt wneud hynny'n broffidiol oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol.
Rydym yn glir y bydd angen cymorth cyhoeddus mwy hirdymor ar y celfyddydau a'r sector diwylliannol, a dyna pam ein bod wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod hi'n bosibl na fydd ein prif sefydliadau celfyddydol yn hyfyw yn ariannol am flynyddoedd lawer ac y dylai'r Llywodraeth fod yn barod i ymestyn yr arian cyhoeddus angenrheidiol i sicrhau eu bod yn goroesi.
Dyna pam ein bod wedi argymell hefyd fod Llywodraeth Cymru yn annog y Trysorlys i adolygu'r cynllun incwm i'r hunangyflogedig fel nad yw gweithwyr llawrydd, sef asgwrn cefn digamsyniol y sector celfyddydau, yn disgyn drwy unrhyw fylchau o ran cymhwysedd, a bod Llywodraeth Cymru yn lobïo San Steffan i barhau â'r cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig y tu hwnt i fis Hydref ar gyfer rhai sectorau lle na fydd pobl yn gallu dychwelyd i'r gwaith yn ddiogel. Ni all ein sector celfyddydau fforddio colli'r bobl greadigol ac arloesol sy'n ei wneud yr hyn ydyw.
Mae'n bosibl na fydd lleoliadau'n gallu agor am beth amser, ond mae angen iddynt gynllunio yn awr ar gyfer yr adeg y gallant wneud hynny. A dyma pam rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ar ailagor erbyn 1 Awst, er mwyn rhoi amser i leoliadau wneud unrhyw addasiadau i safleoedd ac arferion gwaith mewn modd amserol. Rydym hefyd wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu gweithgor adloniant a digwyddiadau i wella cydweithredu a chydweithio rhwng y Llywodraeth a'r sector.
Ac yn olaf, Lywydd, ym maes y celfyddydau, fel ar draws y gymdeithas, mae'r argyfwng yn gyfle i ni fel cenedl ailfeddwl ac ailgyfeirio. Rydym wedi gweld gwerth cymdeithasol y celfyddydau drwy gydol yr argyfwng hwn, o berfformiadau ar-lein arloesol gan gwmnïau ac unigolion dawnus—er nad yw'r perfformiadau'n creu unrhyw refeniw, wrth gwrs, am na ellir codi tâl am y rhan fwyaf o'r rhain—i'r corau ysbyty sy'n codi ysbryd gweithwyr rheng-flaen, i enfysau'r plant sy'n addurno ffenestri ein cymdogion. Nawr yw'r adeg inni ailddatgan ein hymrwymiad i'r celfyddydau, nid yn unig oherwydd eu pwysigrwydd i'r economi, er bod hynny'n bwysig iawn wrth gwrs, ond hefyd oherwydd eu gwerth yn ein galluogi i archwilio pwy ydym fel unigolion a chymunedau ac fel cenedl, ac i archwilio'r hyn sy'n bwysig i ni.
Ac mae hi hefyd yn bryd inni fyfyrio ar yr angen i'r celfyddydau adlewyrchu ein gwlad yn ei holl amrywiaeth. Mae ymgyrch Black Lives Matter wedi arwain pob un ohonom i fyfyrio ar y ffaith nad oes cynrychiolaeth ddigonol i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn ein bywyd diwylliannol, a rhaid rhoi sylw i hyn. Nawr yw'r amser inni feddwl, edrych ymlaen, a chynllunio, a dyna pam ein bod wedi argymell y dylai'r Dirprwy Weinidog weithio gyda'r sector i osod cyfeiriad polisi hirdymor sy'n gynaliadwy, yn gynhwysol, ac yn hygyrch.
Bydd arnom angen sector celfyddydau bywiog, amrywiol a chynhwysol wrth inni ymadfer fel unigolion a chymunedau ac fel cenedl o'r sioc ddigynsail hon, ac ni ellir cynnal y sector hwnnw ar yr adeg hon heb gymorth sector cyhoeddus hirdymor ac ymarferol.