Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bob Aelod am eu cyfraniadau i'r ddadl hon. Un peth rwy'n ei wybod i sicrwydd yw bod llawer o bobl sy'n gweithio yn y sector yn poeni'n fawr ac yn teimlo dan lawer o bwysau ar hyn o bryd, a byddant wedi cael cysur mawr o glywed y gefnogaeth a chryfder y teimlad ynglŷn â phwysigrwydd y celfyddydau ar draws y Siambr heddiw.
Nid yw amser yn caniatáu imi ymateb i bawb, ond rwyf am wneud ychydig o ymatebion. Hoffwn ddiolch i David Melding am ei eiriau caredig am fy ngwaith yn cadeirio. Ni allai fod amser gwaeth, mewn rhai ffyrdd, i ddechrau cadeirio pwyllgor, ond yn sicr cefais gefnogaeth ryfeddol gan y staff a chan fy nghyd-Aelodau. Rwy'n credu bod pwynt David ynglŷn â phwysigrwydd cynnal cyhyrau cof y sector yn rhywbeth a ddeilliodd yn glir iawn o'n tystiolaeth. Os collwn y sector fel y mae gennym yn awr, bydd yn cymryd degawdau i'w ailadeiladu, os oes modd ei ailadeiladu o gwbl, ac mae'n bwysig cofio, wrth gwrs, fod gweithlu'r celfyddydau yn rhyngwladol, mae'n hyblyg iawn, ac os na allwn gadw pobl yma, efallai y bydd llawer o'n talentau gorau yn dewis mynd i rywle arall.
Mae angerdd Rhianon, yn enwedig at gerddoriaeth, bob amser yn ysbrydoli. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r cyfan a ddywed am ddifrifoldeb y sefyllfa, ac rwyf hefyd yn cytuno y bydd arnom angen buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a chan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ein sector celfyddydau yn goroesi wrth iddo fynd yn ei flaen.
Roedd pwyntiau Siân Gwenllian am yr angen i ailasesu yn rhai da iawn, a dyna pam y mae'r pwyllgor wedi gofyn am gynllun cenedlaethol newydd, ffordd newydd ymlaen, wedi'i datblygu gyda'r sector, ac rwy'n cefnogi'r hyn y mae Huw Irranca-Davies yn ei ddweud am gynnwys y sector yn yr ymateb uniongyrchol a sut rydym yn adeiladu nôl yn well, ond hefyd gan edrych ymlaen at yr hyn y gallai ein celfyddydau a'n diwylliant ei olygu i ni. Wrth gwrs, fel y dywed Siân, mae arwyddocâd y celfyddydau yn ein helpu i ddeall yr hyn rydym i gyd wedi bod drwyddo ac yn ein helpu i ymadfer fel unigolion, fel cymunedau ac fel cenedl, yn rhywbeth na ddylem golli golwg arno. Rydym ni fel pwyllgor yn cefnogi'n gryf yr alwad ar Lywodraeth Cymru i weithredu a buddsoddi, a'r pwynt a wnaeth hefyd am bwysigrwydd y ffaith nad y sefydliadau cenedlaethol mawr yn unig yw'r rhain, ond hefyd y grwpiau cymunedol lleol y cyfeiriodd llawer o'r Aelodau atynt sy'n dod â ni i gysylltiad â'n celfyddydau yn ein bywydau bob dydd.
A gaf fi ddiolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb cadarnhaol cyffredinol? Mae'n gywir i ddweud bod y celfyddydau yn ganolog i'n bywydau, hyd yn oed yng nghanol yr argyfwng ofnadwy hwn. Rhaid i mi ymddiheuro am ein defnydd o'r gair 'lobïo'; rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn am hynny. Nid ydym yn disgwyl i'n Gweinidogion lobïo Llywodraeth San Steffan, rydym yn disgwyl iddynt gael trafodaethau gyda hwy. Rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn am y gair anghywir, ond rwy'n siŵr ei fod yn gwybod beth a olygwn. Ac rwy'n siŵr ei fod hefyd yn deall y brys am y trafodaethau hynny, a'r brys i'r sector wybod rhywbeth am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd, oherwydd wrth i fis Awst nesáu a bod disgwyl i fusnesau a sefydliadau gyfrannu tuag at gost ffyrlo, y gwir amdani yw na fydd sefydliadau heb incwm yn gallu gwneud hynny, ac felly mae ein sector celfyddydau ar ymyl y dibyn yn ariannol ac rwy'n siŵr ei fod yn gwybod hynny.
Rwy'n parchu safbwynt y Gweinidog nad yw'n teimlo'r angen i sefydlu grŵp ar wahân. Wrth gwrs, byddai'n disgwyl i mi ddweud y byddwn yn craffu ar ei waith wrth iddo symud ymlaen a'i gydweithrediad â'r sector, a gwn y bydd yn croesawu'r ffaith ein bod yn gwneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddod â fy sylwadau i ben drwy ddweud unwaith eto cymaint y gwn y bydd y sector wedi gwerthfawrogi cywair cadarnhaol, optimistaidd ac ymroddedig y ddadl hon. Edrychwn ymlaen at ymateb ffurfiol y Llywodraeth i ni maes o law, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog ei fod wedi dynodi rhai pethau cychwynnol, ond ni fyddem wedi disgwyl ymateb llawn heddiw. Ac roeddwn am wneud sylw am yr hyn a ddywedodd am bwysigrwydd perfformiadau byw—fod hyn yn rhywbeth y mae pobl yn cymryd rhan ynddo yn ogystal â gwylio, ac mae'n anodd iawn cael hynny o sgrin. Ac rwy'n ddiolchgar iawn iddo hefyd am dderbyn y pwyntiau a wnaethom am yr angen i edrych eto ar amrywiaeth, ac i sicrhau bod ein dinasyddion du ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu hadlewyrchu'n briodol wrth galon ein bywyd diwylliannol.
Felly, gyda'r ychydig sylwadau hynny, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gymeradwyo'r adroddiad hwn a'r cynnig hwn i'r Senedd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r sector i sicrhau bod ein bywyd diwylliannol yn cryfhau ar ôl yr argyfwng erchyll hwn.