Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 24 Mehefin 2020.
Iawn, rwyf wedi dod at ddiwedd yr hyn rwy'n bwriadu ei ddweud. Felly, ar sail yr hyn a wyddom am y wyddoniaeth, a ffeithiau'r hyn a wyddom am y ffordd y mae'r epidemig hwn wedi datblygu dros yr ychydig fisoedd diwethaf, credaf fod achos anorchfygol dros lacio'r cyfyngiadau mor gyflym â phosibl.