Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod y cynnig hwn, a byddaf yn rhoi sylw i bob un o bedair elfen y cynnig gwreiddiol yn eu tro.
Yn gyntaf, yng Nghymru, rydym wedi mynd ati'n fwriadol i edrych yn ofalus ac yn seiliedig ar dystiolaeth ar lacio'r cyfyngiadau, a'n prif nod bob amser yw cadw Cymru'n ddiogel. Rydym wedi esbonio sut rydym yn gwneud hyn yn 'Arwain Cymru allan o'r pandemig coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad', ac yn 'Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: dal i drafod'. Rydym yn llacio cyfyngiadau pan fyddwn yn fodlon na fydd newidiadau'n bygwth iechyd y cyhoedd. Mae'r gyfraith yng Nghymru yn mynnu bod y cyfyngiadau hynny'n cael eu hadolygu'n barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn gymesur.
Daeth yr adolygiad diweddaraf i ben ar 18 Mehefin, ac roedd cyngor gwyddonol yn caniatáu i Lywodraeth Cymru geisio lleihau cyfyngiadau yn sylweddol dros y tair wythnos nesaf. Mae hyn yn cynnwys galluogi busnesau manwerthu nwyddau dianghenraid i ailagor yr wythnos hon lle gallant roi camau rhesymol ar waith i gydymffurfio â dyletswyddau cadw pellter corfforol. Gall gofal plant ailgychwyn a bydd ysgolion yn cynyddu eu gweithgarwch o'r wythnos nesaf. Mae angen parhau i ofyn i bobl aros yn eu hardal leol oni bai fod ganddynt esgus rhesymol dros deithio ymhellach, ond byddwn yn ceisio codi'r cyfyngiad hwn ar 6 Gorffennaf os yw'r amodau'n caniatáu hynny.
Yn ail, rydym yn parhau i ddadlau dros gydweithio'n agos â Llywodraeth y DU drwy ddull pedair gwlad o weithredu. Ond gadewch i mi fod yn glir: mae angen i'r pedair Llywodraeth weithredu fel partneriaid cyfartal, gyda pharch tuag at gyfrifoldebau ei gilydd. Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau sy'n adlewyrchu'r amgylchiadau a'r gofynion yng Nghymru. Ac fel y mae'r Prif Weinidog yn ei roi, nid Lloegr yw'r templed ar gyfer gweddill y DU.
Yn nyddiau cynnar y pandemig, bu'n rhaid inni ddibynnu ar beirianwaith ymateb mewn argyfwng dan COBRA. Roedd yr ymgysylltiad hwn yn gadarnhaol ar y cyfan. Er enghraifft, fe wnaethom weithio'n agos ac yn gyflym eithriadol i gynhyrchu Deddf Coronafeirws 2020 a rhoi'r cyfyngiadau ar waith. Fodd bynnag, ymddengys bod Llywodraeth y DU bellach, yn anffodus, yn tynnu'n ôl o'r dull pedair gwlad o weithredu. Mae angen inni gytuno ar y cyd ar fecanweithiau rhynglywodraethol sy'n sicrhau y gallwn weithio gyda'n gilydd yn effeithiol yng ngham nesaf yr adferiad yn sgil COVID-19.
Mewn perthynas â thrydedd elfen y cynnig, rydym yn cydnabod bod angen cael economi Cymru i symud, ond dim ond lle mae gweithleoedd mor ddiogel ag y gellir gwneud hynny'n rhesymol. O'r herwydd, Cymru yw'r unig ran o'r DU i gynnwys gofynion i gadw pellter cymdeithasol o 2m ar gyfer gweithleoedd mewn rheoliadau. Rydym wedi rhoi pecyn cymorth ar waith i fusnesau sy'n fwy hael nag unrhyw le arall yn y DU: cyfanswm o £1.7 biliwn o gymorth sy'n cyfateb i 2.7 y cant o'n cynnyrch mewnwladol crynswth. Mae hyn yn cynnwys mwy na 56,000 o ddyfarniadau grant ledled Cymru drwy ein pecyn ar gyfer ardrethi, gyda £680 miliwn o gymorth. At hynny, mae ein cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn wedi helpu bron 8,000 o fusnesau hyd yma gyda mwy na £200 miliwn o gymorth.
Fel y nodwyd yn y gyllideb atodol gyntaf a drafodwyd yn gynharach heddiw, gwnaethom symud yn gyflym i addasu cyllid yr UE at ddibenion gwahanol er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cymorth a gynigir i fusnesau yn seiliedig ar yr anghenion sy'n bodoli yng Nghymru. Ac ni fydd yn bosibl darparu'r lefel hon o gymorth cyflym yn y dyfodol os bydd Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar ein pwerau mewn perthynas â chronfeydd i olynu rhai'r UE.
Nododd arolwg barn a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Survation y byddai pobl yng Nghymru yn hoffi gweld Llywodraeth Cymru'n datblygu ei strategaeth economaidd ei hun ar gyfer adferiad, ac rwy'n credu bod hyn yn adlewyrchiad o'r ymddiriedaeth sydd gan bobl yn y Llywodraeth hon i sicrhau adferiad sy'n gweithio i Gymru.
Yn olaf, roedd ein maniffesto'n cadarnhau'r bwriad i beidio â chynyddu treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn, a bwriadaf gadw at y penderfyniad hwnnw. Cytunodd y Senedd ar y cyfraddau ar gyfer eleni ar 3 Mawrth wrth gwrs, a mater i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol fydd ystyried cyfraddau treth Cymru yn y dyfodol, a mater i'r Senedd fydd pleidleisio arnynt, ac nid dadl gan yr wrthblaid yw'r lle i fod yn gosod polisi treth ar gyfer y dyfodol.
Ddirprwy Lywydd, bydd canlyniadau da o ran iechyd y cyhoedd yn sylfaen ar gyfer adferiad economaidd sy'n para. Dyna pam y byddwn yn parhau i seilio ein dull o weithredu ar y dystiolaeth ac yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn llacio'r cyfyngiadau ac ailadeiladu. Diolch.