Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 24 Mehefin 2020.
Iawn. Mae'n ymwneud â chodi'r cyfyngiadau symud, mewn gwirionedd, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Nid oes amheuaeth nad yw diogelu iechyd y cyhoedd mewn ymateb i COVID-19 yn creu heriau economaidd eithriadol. Mae Llywodraeth y DU wedi ceisio rhewi'r economi drwy ddefnyddio'r cynllun cadw swyddi, benthyciadau busnes hael a mathau amrywiol o gymorth. Ond rhewi'r economi yw'r rhan hawdd. Yn union fel nad ydym wedi meistroli'r ail gam mewn cryogeneg—y rhan ddadrewi—ni wyddom sut i ddadrewi economi'n llwyddiannus. Mae'r ddwy'n systemau cymhleth na ellir eu diffodd a'u hailgynnau'n syml. Mae'r creithio economaidd eisoes wedi dechrau. Mae miloedd o fusnesau'n cau, gan danseilio capasiti cynhyrchu economi Cymru. Collwyd llawer o swyddi eisoes. Ni fydd nifer o'r rhai sy'n colli eu swyddi yn ystod dirwasgiad byth yn dod o hyd i waith eto. Gallai pobl ifanc sy'n ceisio dod yn rhan o'r gweithlu golli enillion yn hirdymor.
Deilliodd costau cyllidol eithriadol o gloi'r economi hefyd, gan arwain at ychwanegu biliynau at ddyled Llywodraeth y DU. Er bod cyfiawnhad dros hyn i atal cwymp economaidd llwyr, nid yw cynnal lefelau o'r fath o wariant Llywodraeth yn hirdymor yn gynaliadwy o gwbl. Nid oes amheuaeth fod cydbwyso iechyd y cyhoedd yn erbyn yr angen dybryd bellach i ddatgloi'r economi yn orchwyl anodd a bregus iawn. Ond rydym ni ym mhlaid Brexit bellach yn credu bod rhaid ei wneud yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Rydym yn nesáu'n gyflym at sefyllfa lle na fydd llawer o fusnesau a mentrau a fu'n llewyrchus yn gallu cynnal eu hunain mwyach. Bydd colli busnesau ar raddfa fawr yn y modd hwn yn sicr o arwain at ganlyniadau iechyd a allai fod yn waeth na'r rhai a gyflwynir gan COVID-19. Arweiniodd cwymp economaidd 2008 at 10,000 hunanladdiad. Nid oes gennyf ffigurau'n ymwneud â materion iechyd meddwl ar gyfer y pandemig penodol hwn, ond rhagwelir yn gyffredinol, hyd yn oed pe baem yn agor yr economi ar unwaith, y bydd cynnydd sylweddol eisoes mewn problemau iechyd meddwl.
Mae'r Prif Weinidog yn bendant na welwn unrhyw lacio ar y cyfyngiadau hyd nes ei fod yn sicr na fyddwn yn dychwelyd at y cyfraddau marwolaethau blaenorol o'r coronafeirws. Felly, rwy'n teimlo y dylem ddadansoddi rhai o'r ystadegau y mae'r Prif Weinidog yn dibynnu arnynt. Cofnodwyd 1,483 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig â'r coronafeirws yng Nghymru ers dechrau'r epidemig. Fodd bynnag, mae llawer o dystiolaeth anecdotaidd yn dod i'r amlwg sy'n awgrymu, lle cofnodwyd coronafeirws fel achos marwolaeth, mai'r achos gwirioneddol oedd salwch hirdymor sy'n peryglu bywyd megis canser a chlefyd y galon, ac er bod coronafeirws yn bresennol, ni ellid dweud mai dyna oedd gwir achos y farwolaeth.
Mae pob marwolaeth, wrth gwrs, yn drasiedi i'r rhai a oedd yn adnabod ac yn caru'r rhai a fu farw. Ond mae'n rhaid inni gofio bod miloedd o farwolaethau yn digwydd dros yr un cyfnod bob blwyddyn, ac y byddai modd osgoi rhai ohonynt pe bai'r camau cywir wedi cael eu cymryd ar yr adeg iawn. Yn wir, faint o bobl fydd yn marw am eu bod yn ofni gofyn am help meddygol tra bu'r pandemig hwn yn bresennol?
Rhaid inni dderbyn mai dyma natur pethau. Rhaid inni hefyd ystyried faint o bobl ifanc, heini ac iach sydd wedi marw yng Nghymru o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19. Y gwir yw mai ychydig iawn o farwolaethau o'r fath a gafwyd. Eto, er bod pob un yn drychineb ynddo'i hun, rhaid inni fod yn ddigon dewr i ofyn y cwestiwn: 'A yw'n cyfiawnhau cau'r economi gyfan a rhoi miloedd o bobl ifanc allan o waith, a hynny am gyfnod hir o bosibl?' Gellir dadlau y dylem gadw'r un cyfyngiadau ar gyfer y rheini y nodwyd eu bod yn fregus am beth amser yn hwy, ond mae'r ddadl dros orfodi cyfyngiadau symud ar bawb yn prysur golli ei hygrededd.
Gadewch imi droi'n fyr at y busnesau sy'n dioddef fwyaf o'r cyfyngiadau—y sector gwasanaeth, ac yn enwedig tafarndai, bwytai a'r diwydiant hamdden yn gyffredinol, gan gynnwys gwestai, gwersylloedd a pharciau gwyliau. O gael mesurau rheoli da a threfniadau cadw pellter cymdeithasol ar waith, rwy'n siŵr y gellid agor llawer o'r sector hwn, fel sydd wedi digwydd yn y fasnach fodurol. Gwnaeth fideo a anfonwyd ataf gan Andy Sinclair, o Sinclair Group, argraff arbennig arnaf: roedd yn amlinellu eu strategaeth ar gyfer ailagor, ac rwy'n siŵr y bydd nifer o werthwyr ceir eraill yn cyflwyno mesurau tebyg. Byddai'r risg o heintio gyda strategaethau o'r fath ar waith yn fach iawn. Gallai llawer o fusnesau eraill sy'n parhau o dan gyfyngiadau weithredu'r un math o fesurau â'r fasnach fodurol.
Yn y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, nid ydym yn difrïo nac yn beirniadu'r Prif Weinidog na'i Lywodraeth am eu gweithredoedd yn ystod yr epidemig coronafeirws hwn. Yn wir, hoffem eu llongyfarch ar eu hymyriadau economaidd cadarn, ac at ei gilydd, am y ffordd y mae'r ymyriadau hyn wedi'u cyflawni. Oni bai am eu gweithredoedd, a gweithredoedd Llywodraeth y DU, nid oes amheuaeth y byddai'r mwyafrif helaeth o fusnesau Cymru mewn sefyllfa fregus iawn. Pwrpas y ddadl hon yw gofyn i'r Llywodraeth gyflymu'r broses o agor yr economi. Os na wnawn ni weithredu, mae'r amser yn prysur agosáu pan allai gymryd llawer iawn o flynyddoedd i'r economi ymadfer—yn wir, efallai na fyddai byth yn ymadfer. Clywsom mai'r ardaloedd mwyaf difreintiedig sy'n cael eu taro waethaf gan y cyfyngiadau. Efallai y bydd trefi'r Cymoedd, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd, yn colli llawer mwy o siopau os yw'n parhau. Rydym ni ym Mhont-y-pŵl newydd glywed na fydd un manwerthwr mawr yn ailagor. Mae hyd yn oed un golled o'r fath yn allweddol i ganol ein trefi. Pa mor aml y caiff hyn ei ailadrodd ar draws ein trefi yn y Cymoedd os bydd y cyfyngiadau'n parhau?
Oes, Brif Weinidog, mae yna risgiau, ond rydym yn peryglu ein bywydau bob tro y byddwn yn gyrru car, felly rydym yn cymryd gofal i osgoi damweiniau, ac rydym yn dibynnu ar filoedd, miliynau yn wir, i wneud yr un peth. Yn drasig, mae pobl yn marw ar ein ffyrdd bob blwyddyn, ond nid ydym yn atal pobl rhag gyrru oherwydd hyn. Yn y pen draw, Brif Weinidog, ymarfer asesu risg yw'r ffordd y down allan o'r cyfyngiadau. Credwn fod yr elfen risg bellach yn cael ei gwrthbwyso gan yr anghenraid i sicrhau bod yr economi'n gweithio eto. Mae llawer o bobl yn y gymuned fusnes yn daer am gael ailagor—mae eu harian wedi dod i ben, mae perygl i'w hiechyd a'u lles. Brif Weinidog, mae'r Cymry wedi dioddef digon. Galwn arnoch i gyflymu'r broses o lacio'r cyfyngiadau. Mae canlyniadau peidio â gwneud hynny'n enbyd, a gallant fod yn waeth na COVID-19 ei hun.