10. Dadl Plaid Brexit: Codi'r Cyfyngiadau Symud

Part of the debate – Senedd Cymru ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Cynnig NDM7334 Caroline Jones

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i gyflymu'r gwaith o godi mesurau'r cyfyngiadau symud;

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan;

c) hwyluso ail-agor economi Cymru yn gyflymach;

d) diystyru codi cyfraddau treth incwm Cymru i dalu costau ymestyn y cyfyngiadau symud.