Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 24 Mehefin 2020.
O'r gorau. Gallaf glywed Ann Jones yn cytuno hefyd. Mae eich microffon ar agor, Ann. [Chwerthin.] Ond gan fy mod yn cael cyngor gan David Melding ac Ann Jones a Darren Millar, rwy'n teimlo efallai fod y sgript sydd gennyf o fy mlaen yn anghywir. Rwy'n chwilio am gyngor ar WhatsApp hefyd, ac rwyf newydd ei dderbyn. Felly, mae pawb yn gytûn y dylwn alw pleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio. Felly, galwaf am y bleidlais honno, ac mae'r cynnig heb ei ddiwygio yn enw—yn eich enw chi, Darren Millar?