Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:01 am ar 24 Mehefin 2020.
Diolch, Brif Weinidog. Mae'r proffesiwn deintyddol, fel pob sector yn economi Cymru, yn dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud. Er y bydd dod allan o lefel y rhybudd coch yn rhywfaint o ryddhad, ni fydd yn ddigon i gefnogi llawer o bractisau, ac ni allwn fforddio colli unrhyw bractis deintyddol yng Nghymru. Mae nifer o bractisau wedi cysylltu â mi, unig berchnogion yn aml, sy'n poeni y bydd colli busnes yn golygu y bydd eu busnesau’n mynd i’r wal ac y byddant hyd yn oed yn colli eu cartrefi. Brif Weinidog, pa gymorth ariannol, y tu hwnt i dalu 90 y cant o werth y contractau blynyddol, rydych yn ei gynnig i ddeintyddion yng Nghymru i sicrhau nad ydym yn colli unrhyw bractisau? Diolch.