Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:30 am ar 24 Mehefin 2020.
Ers 2015, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dioddef gostyngiad cyson yn eu cyllid, tra'n ymgymryd â mwyfwy o gyfrifoldebau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn wynebu toriad pellach o £7.5 miliwn. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn torri'n ôl ar gyllid, yn torri'n ôl ar blannu coed, ac mae'n ymddangos ei bod yn torri'n ôl ar ei hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Nawr, yr hyn y mae llawer o bobl yn y Rhondda a chymunedau cyfagos ei eisiau yn awr yw ymchwiliad brys wedi'i arwain gan arbenigwyr i ddarganfod pam y maent yn dioddef llifogydd parhaus ac yn hollbwysig, beth sydd angen ei wneud i atal hyn. Brif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ymchwiliad o'r fath heddiw?