Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:47 am ar 24 Mehefin 2020.
Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r cyhoeddiad yr wythnos hon gan Castell Howell, busnes bwyd pwysig iawn yn fy rhanbarth, eu bod yn ymgynghori ynghylch diswyddiadau. Mae hyn wrth gwrs yn rhannol oherwydd eu bod wedi dibynnu ar gwsmeriaid yn y sector lletygarwch. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo heddiw i sicrhau bod ei Lywodraeth a'i swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r cwmni i weld a oes unrhyw ffordd y gellir osgoi'r diswyddiadau, ac a wnaiff ymrwymo yn y dyfodol i adolygu polisïau caffael Llywodraeth Cymru, er mwyn i gwmnïau fel Castell Howell allu manteisio ymhellach arnynt yn y dyfodol?