Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:33 am ar 24 Mehefin 2020.
Lywydd, roedd cyhoeddiadau'r Prif Weinidog ddoe yn gyhoeddiadau ar gyfer Lloegr. Mae'n rhaid i'r Senedd hon dderbyn ei chyfrifoldebau, fel y dywed yr Aelod, dros wneud rheoliadau i Gymru. Byddwn yn parhau i wneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi iechyd ein poblogaeth yn gyntaf yn y ffordd y cyflwynwn gynigion i lawr y Senedd a cheisio sicrhau cefnogaeth iddynt. Ceir lleiafrif—sy'n cael ei gynrychioli gan yr Aelod—a fyddai'n dymuno byw yn rhywle arall a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn wahanol. Rydym yn hyderus fod y rhan fwyaf o'r Senedd yn cefnogi'r dull a ddefnyddiwn, ond rydym yn hyderus fod pobl Cymru yn ei gefnogi hefyd.