Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:15 am ar 24 Mehefin 2020.
Wrth gwrs, Llywydd, mae'r bobl sy'n cael newyddion trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn bwysig i ni, ac mae'r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw yn bwysig hefyd. Rŷn ni'n treial eu cefnogi nhw, ac rŷn ni'n treial eu cefnogi nhw mewn print hefyd. Rŷn ni yn gwario arian i helpu'r sector yna i gario ymlaen yn y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud. Dwi'n siŵr y bydd pobl yma yn gweithio'n galed ar y cwestiynau y mae Siân Gwenllian wedi'u rhoi i mewn, gyda nifer fawr o gwestiynau eraill, a phan fydd y ffigurau yna ar gael, rŷn ni'n mynd i'w dosbarthu nhw a'u rhannu nhw â phobl eraill. So, yn gyffredinol, wrth gwrs rŷn ni eisiau cefnogi'r sector, a'i wneud e mewn ffordd briodol, yn ogystal â phopeth arall rŷn ni'n gwneud i dreial bybu'r iaith Gymraeg.