Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:26 am ar 24 Mehefin 2020.
Brif Weinidog, dim ond newydd ddychwelyd i'w cartrefi ar ôl llifogydd mis Chwefror roedd rhai preswylwyr pan gwympodd glaw trwm yn ardal Pentre yr wythnos diwethaf, gan achosi rhagor o ddifrod i eiddo. Yn 2017, roedd disgwyl i Weinidogion Cymru benodi cadeirydd ac aelodau i’r pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol cyn diwedd y flwyddyn honno. Mewn gwirionedd, ni chafodd aelodau’r pwyllgor hwnnw, a sefydlwyd o dan delerau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, eu cyhoeddi tan fis Mawrth 2019, ac ni chynhaliwyd eu cyfarfod cyntaf tan fis Mehefin 2019. Dyna ddwy flynedd heb ffocws digonol ar strategaeth eich Llywodraeth ar lifogydd. Brif Weinidog, pam y cymerodd hi gymaint o amser i wneud hynny?