Economi Blaenau'r Cymoedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:49 am ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 11:49, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r ffaith bod cynigydd a ffefrir wedi'i benodi ddydd Gwener ar gyfer adeiladu adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd, sy'n werth £500 miliwn, yn garreg filltir bwysig yn nyfodol yr economi yn y rhan honno o Gymru. Bydd yn sicrhau manteision economaidd a chymunedol mewn cyfnod o adfer ar ôl y coronafeirws. Ac o'r £500 miliwn hwnnw, disgwylir £170 miliwn o fewn y gadwyn gyflenwi leol yn unig.