Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 12:25 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae wedi bod yn gadarnhaol iawn gweld arddangosiadau heddychlon o undod â Black Lives Matter, a chefais fy mhlesio'n fawr iawn gan nifer y bobl iau yn arbennig sy'n cysylltu â mi ynglŷn â'r mater hwn. Mae un cwestiwn y maent i gyd yn ei ofyn yn ymwneud â rôl addysg yn trechu hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb. Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo gyda Race Council Cymru, er enghraifft, ar hanes yn y cwricwlwm newydd, ond pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog Addysg am y materion hyn yn fwy cyffredinol o fewn y cwricwlwm newydd ac yn arbennig, hyrwyddo ystod amrywiol o awduron o fewn yr elfen llythrennedd?