Cam-Drin Domestig

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 12:16 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 12:16, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n monitro niferoedd wythnosol y rhai sy'n cysylltu â'n llinell gymorth Byw Heb Ofn a nifer y mannau lloches ledled Cymru. Er mwyn mynd i'r afael ag effaith COVID-19, cynhelir cyfarfod wythnosol i'n holl randdeiliaid trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gyda Llywodraeth Cymru i asesu'r sefyllfa, a lansiwyd ymgyrch, 'Ddylai neb fod yn ofnus gartref', ar 7 Mai.