Part of the debate – Senedd Cymru am 12:32 pm ar 24 Mehefin 2020.
Hoffwn ofyn am ddatganiad i egluro tri mater gwahanol ond cysylltiedig ynghylch cartrefi gofal. Y cyntaf yw'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad gwreiddiol gan Lywodraeth Cymru i wrthod profion COVID-19 ar gyfer preswylwyr asymptomatig sy'n gadael yr ysbyty cyn mynd yn ôl i gartrefi gofal. O ystyried nifer y marwolaethau a'r teuluoedd mewn galar yn sgil y polisi, mae budd cyhoeddus clir mewn esbonio’r rhesymau dros y penderfyniad hwn. Nid yw dweud 'Dyna yw'r cyngor a gawsom' yn ddigon da.
Nawr, yr ail yw esboniad pam y newidiwyd y polisi hwn o 23 Ebrill ymlaen. Pan ofynnais i'r Prif Weinidog am hyn yn wreiddiol yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog ar 29 Ebrill, dywedodd wrthyf fod y polisi wedi'i newid, a dyfynnaf,
'nid oherwydd bod y cyngor clinigol wedi newid, ond oherwydd ein bod ni'n cydnabod yr angen i roi ffydd i bobl yn y sector'.
Ond mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, dywedodd, mewn perthynas â'r mater hwn, ac unwaith eto, rwy'n dyfynnu
Pan newidiodd y cyngor, fe wnaethom newid yr arfer.
Credaf fod dyletswydd ar y Prif Weinidog i egluro pam ei fod wedi rhoi atebion gwrthgyferbyniol i'r cwestiwn hwn.
Yna, y mater olaf yw esboniad, os gwelwch yn dda, ynglŷn â honiad y Gweinidog iechyd nad arweiniodd y polisi gwreiddiol at unrhyw farwolaethau, pan fo tystiolaeth glir i'r gwrthwyneb. Siaradais â pherchennog cartref gofal y bore yma a alwodd yr honiad hwnnw'n syfrdanol o dwp. Mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu mai peidio â phrofi pobl a oedd yn gadael yr ysbyty a arweiniodd at y marwolaethau hyn.
Nawr, mae ceisio cael gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru am y mater hwn fel ceisio cael gwaed o garreg, ac mae'r cymylu parhaus yn rhoi'r argraff eu bod yn ceisio cuddio rhywbeth. Felly, rwyf am ofyn am ddatganiad sy’n nodi'r holl ffeithiau mewn perthynas â'r mater hwn cyn gynted â phosibl.