Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:10 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch. Mae ein polisïau’n cynnwys y cynllun cymorth i ffermwyr godro Cymru, a agorodd yr wythnos diwethaf ac a fydd yn cefnogi’r ffermwyr sydd wedi’u taro galetaf gan COVID-19 yn sgil cau’r sectorau gwasanaeth bwyd a lletygarwch. Mae ein gwasanaeth cymorth a chyngor unigryw, Cyswllt Ffermio, wedi parhau drwy weminarau wythnosol, flogiau, podlediadau a fideogynadledda, yn ogystal ag e-byst, galwadau ffôn a negeseuon testun.