Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:11 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch, a chredaf fy mod wedi rhoi atebion trylwyr mewn perthynas â’r cynllun cymorth i ffermwyr godro. Rwy’n falch iawn ein bod yn dosbarthu’r symiau cyntaf o arian yr wythnos hon, gan y credaf fod hynny’n bwysig iawn hefyd. Rydych yn llygad eich lle am yr ardaloedd gwledig. Fel sy'n digwydd yn aml, yr ardal wledig sy'n dioddef, ac yn amlwg, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar dwristiaeth, yn ogystal ag ar y sector amaethyddol. Felly, pan edrychwn ar adferiad—fel rydym yn ei wneud, wrth gwrs, fel Llywodraeth Cymru—credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn edrych ar yr effaith ar yr ardaloedd gwledig a'r hyn y gallai fod ei angen er mwyn eu cefnogi. Rwy'n ystyried cynnull—. Syniadau cynnar iawn yw’r rhain, ac nid wyf hyd yn oed wedi eu trafod â swyddogion eto, ond credaf efallai y bydd angen grŵp penodol arnom i edrych ar adferiad mewn perthynas â’n hardaloedd gwledig.