Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 12:47 pm ar 24 Mehefin 2020.
Cefais sicrwydd gan CNC ei bod yn gwbl ddiogel i barhau. Mae gennyf gyfarfod gyda CNC yfory. Dim ond yn ddiweddar y cefais wybod am y digwyddiad rydych newydd gyfeirio ato. Felly, byddaf yn sicr yn ei godi gyda CNC yfory, ac yn cael mwy o sicrwydd ac yna rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo yn dilyn fy nghyfarfod yfory.