Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 12:59 pm ar 24 Mehefin 2020.
Yn sicr, dyna fy mwriad, ac roeddwn yn ddiolchgar i'r Aelod a holl aelodau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am eu hymrwymiad i fy helpu i wneud hynny. Rwyf wedi cynnal yr ymgynghoriad byrraf y gallwn ei gynnal. Rydym wedi cynnal ymgynghoriadau o'r blaen, ond yn amlwg, mae'n rhaid i ni fynd drwy'r broses. Ond rwy'n sicr yn gobeithio y byddaf mewn sefyllfa yn gynnar yn 2021 i roi hynny ar y llyfr statud.