Tlodi Plant

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:00, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod llawer o ffactorau yn yr argyfwng sydd, mewn gwirionedd, mewn perygl o waethygu'r hyn sydd eisoes yn argyfwng tlodi plant difrifol iawn yma yng Nghymru, ac roedd hynny'n wir cyn COVID, ac mae'r rheini'n cynnwys pethau fel problemau o ran cael gafael ar ofal plant pan na fydd menywod yn gallu dychwelyd i'r gwaith o bosibl os nad yw ysgolion ar agor ar sail amser llawn—popeth o hynny i blant sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol rhag addysg o bell. A gaf fi ofyn i chi heddiw, Weinidog, i barhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac i ail-bwysleisio iddynt y dylent roi trechu tlodi plant a chodi plant allan o dlodi wrth wraidd eu hagendâu wrth iddynt ddechrau cynllunio ar gyfer adeiladu nôl yn well ar ôl yr argyfwng COVID?