Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 24 Mehefin 2020.
Gyda phleser mawr, Paul. Rwy'n ddiolchgar iawn i arweinwyr awdurdodau lleol am y berthynas waith agos rhyngof a Gweinidogion eraill yn ystod y pandemig COVID-19. Mae'r ddeialog reolaidd wedi ein galluogi i fynd i'r afael â phroblemau ar y cyd ac ymdrin â materion brys i ddiogelu a chynorthwyo'r cyhoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.