Adfer Canol Trefi Sir y Fflint

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:50, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Roedd canol trefi, fel Bwcle yn fy etholaeth fy hun, yn ei chael hi'n anodd cyn y coronafeirws. Nawr, rhan allweddol o ganol tref ffyniannus yw banc, ac fel y gwyddoch, mae Bwcle wedi colli ei holl fanciau yn anffodus. Nawr, rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros fanc cymunedol i angori canol y dref hon, ac mae effaith COVID yn gwneud hyn hyd yn oed yn fwy pwysig. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ymgysylltu â mi a’r gymuned leol i weld pa arian sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Bwcle yn ffynnu eto?