Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch, Weinidog. Ac rydym eisoes wedi clywed gan Aelodau eraill am y pwysau ychwanegol y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu ar hyn o bryd. Maent yn amlwg yn wynebu colli llawer iawn o incwm ac wedi bod yn gwneud hynny ers rhai misoedd bellach, ond hefyd maent yn wynebu'r pwysau ychwanegol, wrth inni symud ymlaen, o addasu canol trefi ac ati i ganiatáu ar gyfer cadw pellter cymdeithasol. Hefyd, bydd y system gynllunio o dan straen, a mwy na thebyg bod cryn dipyn o ôl-groniad yn datblygu yn y system gynllunio. Felly, y materion hyn i gyd—. Pa gefnogaeth rydych chi wedi'i rhoi i awdurdodau lleol? A pha drafodaethau a gawsoch gyda CLlLC i sicrhau, wrth inni gefnu ar y pandemig, fod awdurdodau lleol mewn sefyllfa i ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau, heb fynd i wynebu problemau mwy sylweddol yn y dyfodol na’r hyn sydd ganddynt ar hyn o bryd?