Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch am y cwestiwn. Heddiw rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig am y ddau glwstwr o achosion a gafwyd yn ddiweddar mewn safleoedd prosesu cig a bwyd yng ngogledd Cymru. Rydym yn cadw'r ddau ddigwyddiad dan oruchwyliaeth a rheolaeth agos. Mae'r holl gamau sy'n angenrheidiol i ddiogelu'r cyhoedd yn cael eu cymryd a byddant yn parhau i gael eu cymryd.