COVID-19: Ailagor Ysgolion

Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:08, 24 Mehefin 2020

Rhaid canmol penaethiaid a staff ein hysgolion am fynd ati yn drefnus a gofalus i gynllunio ar gyfer ailagor ysgolion o ddydd Llun ymlaen. Ond, yn hwyr iawn yn y dydd, fe ddaeth y newydd fod yna ddryswch mawr ynglŷn â'r bedwaredd wythnos. Oni ddylech chi fod wedi sicrhau cytundeb pawb, yn cynnwys pob undeb, cyn gosod y disgwyliad i ysgolion agor am bedair wythnos? Ac, yn wyneb y ffaith bod yr anghytuno yn parhau—fe ymddengys—onid eich dyletswydd chi ydy rhoi'r arweiniad cenedlaethol ynglŷn â'r bedwaredd wythnos?

Chi ddylai arwain, yn hytrach na rhoi pwysau ar yr awdurdodau lleol ac ysgolion unigol i wneud penderfyniadau anodd, a fydd ond yn creu dryswch a drwgdeimlad pellach. Dydy'r sefyllfa sydd wedi codi ddim yn deg ar yr ysgolion, ac yn sicr dydy hi ddim yn deg ar y disgyblion sy'n cael eu dal yng nghanol y ffrae.