7. Dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:19, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i Mick Antoniw am ei gyfraniad. Fel y dywedais, mae'n bolisi hynod o bwysig os ydym am gael sylfaen ddiwydiannol lwyddiannus wedi'i datgarboneiddio yn y dyfodol. Ac rwy'n meddwl hefyd, wrth inni edrych ar adfer yn sgil COVID-19, ei bod yn bwysig iawn ein bod yn darparu eglurder ar gyfer ein busnesau. Felly, diolch.