Datganiad gan y Llywydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 11:01 am ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 11:01, 8 Gorffennaf 2020

Croeso, bawb, felly, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn yma heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi hefyd eisiau atgoffa'r Aelodau bod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod yma, ac maen nhw yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr â beth ydyn nhw i'r Aelodau sy'n ymuno yn y cyfarfod rhithwir.