Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Mae'n amhosibl ymateb i'r hyn y mae pawb wedi'i ddweud wrth gwrs, ac rwy'n meddwl bod llawer o themâu cyffredin y deuaf atynt mewn munud, ond mae'n rhaid i mi sôn am un neu ddau Aelod unigol. Ni allaf beidio â llongyfarch Cei Connah neu ni fyddai Jack Sargeant byth yn maddau i mi. Mae'n gamp fawr, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd am ategu llongyfarchiadau Jack Sargeant yn y Senedd y prynhawn yma. A rhaid i mi yn bersonol groesawu Laura Anne Jones yn ôl i'n Senedd, er o dan amgylchiadau trasig iawn. Bu Laura a minnau, wrth gwrs, yn gwasanaethu gyda'n gilydd yn y gorffennol, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n braf iawn gweld menyw arall yn y Siambr. Felly, croeso nôl.
Rwy'n credu mai'r hyn a wnaeth fy nharo, Ddirprwy Lywydd, oedd y themâu cyffredin a ddeilliodd o gyfraniadau'r holl Aelodau: y ffordd y gall chwaraeon ein hysbrydoli, y modd y gall godi ein hysbryd ar adegau anodd—soniodd David Melding am fod yn falch o weld y criced yn ôl—ond hefyd thema gyffredin anghydraddoldeb a pha mor bwysig yw hi i sicrhau bod pobl yn ein cymunedau tlotaf yn gallu manteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Ac roeddwn yn falch iawn o glywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ar ddiwedd ei gyfraniad am yr ymrwymiad i hyrwyddo pob math o weithgarwch corfforol, nid yr hyn a ystyriwn yn draddodiadol yn chwaraeon yn unig.
Yng nghyfraniad John Griffiths, fe'm trawyd yn fawr gan ei wybodaeth fanwl am y byd chwaraeon yn ei gymuned a'i etholaeth ei hun. A chredaf fod hynny'n cael ei rannu'n gyffredinol ar draws y Siambr. Yn sicr, roedd yn amlwg yng nghyfraniad Alun Davies. Cyfeiriodd yr Aelodau hefyd at bwysigrwydd aruthrol gweithgarwch corfforol i blant. Rwy'n siŵr bod llawer o fechgyn a merched naw oed—gan ddychwelyd at gyfraniad Alun Davies—yn ysu am gael mynd allan a gallu chwarae gyda'i gilydd eto, cyn gynted ag y bydd yn ddiogel iddynt wneud hynny.
Cyfraniad Mick Antoniw, lle tynnodd sylw unwaith eto at bwysigrwydd adnoddau cyhoeddus i alluogi pobl dlotach i barhau i gymryd rhan neu ddechrau cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, pobl na allant fforddio ymaelodi â champfa breifat er enghraifft—. Ac rwy'n gobeithio'n fawr, pan fydd y Dirprwy Weinidog yn ymateb yn ffurfiol i'n hadroddiad, y bydd yn trafod mater yr ymddiriedolaethau hamdden a'r cyfleusterau nad ydynt yn nwylo awdurdodau lleol yn llawn mwyach ac a allai wynebu heriau mwy na'r canolfannau hamdden sy'n dal i fod yn eiddo i'r awdurdodau lleol hyd yn oed.
Rwy'n ddiolchgar i bawb am eu cyfraniadau, fel y dywedais, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn sôn am awgrym Mick Antoniw y dylid cynnal asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Nid yw'n argymhelliad ffurfiol gan y pwyllgor, ond mae'n sicr wedi deillio o gyfraniadau pawb heddiw, ac fe gododd yn y trafodaethau a gawsom fel pwyllgor. Gwyddom na allwn—. Ni fydd byth ddigon o arian i wneud popeth i bawb. Ac rwy'n credu bod yna neges glir i'r Llywodraeth, o'n pwyllgor ni ac o'r Siambr hon fod yn rhaid i ni gynorthwyo'r bobl sy'n cael y lleiaf o gyfleoedd wrth inni bennu blaenoriaethau. Er enghraifft, ni chawsom unrhyw dystiolaeth ffurfiol, dan y sesiwn hon, ynglŷn â chyfranogiad pobl dduon a phobl o liw mewn chwaraeon ar lefel gymunedol. Ond gwyddom, o waith blaenorol, y gallent fod yn wynebu mwy o her o ran sicrhau mynediad.
Felly, byddwn yn awgrymu wrth y Gweinidog, wrth iddo geisio blaenoriaethu yn y dyfodol, ei fod yn cynnal asesiad o effaith y cymorth sydd eisoes wedi'i ddarparu ar gydraddoldeb. Mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, fod y gefnogaeth sydd eisoes wedi'i darparu drwy Chwaraeon Cymru wedi cael croeso cynnes iawn gan y sector pan roesant dystiolaeth inni. Ond roeddent yr un mor glir—a gwn fod y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog yn gwybod hyn—na fydd y gefnogaeth honno, er ei bod wedi cael croeso mawr, yn ddigon ynddi ei hun i'n cario drwodd.
Felly, rwyf am gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon a phawb, unwaith eto, a gymerodd ran ym mhroses y pwyllgor, y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar ac wrth gwrs, fel y mae eraill, gan gynnwys David Melding, wedi sôn, rydym fel pwyllgor yn ddiolchgar iawn i'n staff eithriadol. Edrychwn ymlaen at ymateb ffurfiol y Llywodraeth i'n hadroddiad, y gwyddom y bydd yn dod maes o law. Ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ymateb yn anffurfiol yn y ddadl ar yr adeg hon.
Gyda hynny, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd ac edrychaf ymlaen at graffu ymhellach ar y Llywodraeth, wrth i'w cefnogaeth i'r sector chwaraeon ac yn bwysig iawn, i'r sector gweithgarwch corfforol barhau drwy'r cyfnod anodd hwn.