10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: COVID-19 a Thrafnidiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:48 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 6:48, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Roeddwn am gywiro neu newid sylw a wneuthum yn fy nghyfraniad cynharach. Wrth gwrs, wrth gyfeirio at y rheswm pam ein bod yn gwrthwynebu'r syniad na ddylai Llywodraeth Cymru fyth orfodi cwarantin, cyfeiriais at enghraifft a oedd y tu allan i'r ardal deithio gyffredin. Rwy'n siŵr na fydd yn syndod i Darren Millar wybod nad wyf yn arbenigwr ar y materion hyn, ond mae fy mhwynt yn sefyll. Byddai'n dal yn chwerthinllyd pe bai achos yn Nulyn neu yn Guernsey i Lywodraeth Cymru beidio â gallu gosod cwarantin, os mai dyna'r peth diogel i'w wneud. Rwy'n ddiolchgar i chi, Lywydd, am ganiatáu i mi gywiro fy hun.