Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i grŵp y Ceidwadwyr am gyflwyno hyn? Mae'n ddadl bwysig ac mae'n iawn inni fod yn trafod materion sy'n ymwneud â thrafnidiaeth. Ac mae yna elfennau o'u cynnig na allaf anghytuno â hwy. Mae'n beth da fod cyfyngiadau teithio'n cael eu codi. Mae'n beth da gan ei bod yn teimlo'n fwy diogel bellach i godi'r cyfyngiadau teithio. Ac wrth gwrs, mae cyfyngiadau teithio wedi bod yn galed iawn ar bobl, yn galed arnom i gyd. Ni all fod un ohonom yn y Siambr hon a'r rhith-Siambr sydd heb weld colli rhywun neu fwy nag un person nad ydym wedi gallu eu gweld. Ond fel y cydnabu Darren Millar, roedd y cyfyngiadau hynny'n angenrheidiol.
Ac mae'r pryderon y mae'r cynnig yn eu codi ynghylch cefnogaeth i'r diwydiant bysiau yn bwyntiau a wnaed yn dda yn fy marn i. Croesewir datganiad y Dirprwy Weinidog yn gynharach yr wythnos hon, datganiad a wnaed wedi i'r cynnig hwn gael ei gyflwyno wrth gwrs. Ond rhaid i mi gytuno â Darren Millar fod yr ymrwymiad i gynllun argyfwng ar gyfer bysiau yn un i'w groesawu, ond mae'n anarferol o amwys ar ran y Dirprwy Weinidog. Mae'n brin o ffigurau ac amserlenni, ac mae angen y rheini ar y diwydiant ar fyrder, a gobeithio bod y Dirprwy Weinidog yn deall hynny.
Nawr, rwy'n hapus iawn i egluro i Darren Millar pam ein bod wedi cynnig diwygio ei gynnig yn y ffordd y gwnaethom, ac wrth wneud hynny, os caf, Ddirprwy Lywydd, fe ddarllenaf yn union beth y mae ei gynnig presennol yn ei ddweud. Mae'n gofyn i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu:
'[d]diystyru'r angen i gyflwyno gofynion cwarantin i breswylwyr sy'n teithio i Gymru o'r tu mewn i'r Ardal Deithio Gyffredin'.
Nawr, nid yw hynny'n dweud yn glir mai'r hyn y mae'n ei olygu yw ei ddiystyru ar hyn o bryd i bobl sy'n teithio o rannau eraill o'r DU a rhannau eraill o Weriniaeth Iwerddon. Felly, mae'r hyn a ddywedodd Darren Millar wrthym ychydig yn wahanol i'r hyn sydd yn nhestun ei gynnig, ac mae'r hyn sydd yn nhestun ei gynnig, Ddirprwy Lywydd, yn wallgof, a bod yn onest. Mae cymal 5(a), fel y mae, yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddiystyru'r angen i gyflwyno gofynion cwarantin. Nid yw'n dweud am ba hyd ac nid yw'n dweud o dan ba amgylchiadau. O ddifrif? Diystyru, am byth?
Mae perygl gwirioneddol o ail don—a mwy nag un o bosibl, Duw a'n helpo—o'r feirws hwn. Felly, gadewch i ni ddychmygu, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn cael nifer fawr o achosion o'r coronafeirws ym Mharis, gadewch i ni ddweud. Ymhen blwyddyn yn yr amgylchiadau hynny, neu ymhen chwe mis yn yr amgylchiadau hynny, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, gobeithio, oni ddylai Llywodraeth Cymru gyfyngu ar deithio i Baris, er cymaint y byddem i gyd yn gweld colli hynny, a chyflwyno cwarantin wedyn i ganiatáu i deithio hanfodol ddigwydd eto'n ddiogel? Yn sicr fe ddylent. A dyna pam ein bod wedi cyflwyno gwelliant 2, Darren Millar, yn dileu'r cymal ac yn rhoi rhywbeth mwy cymedrol yn ei le. Nid oes neb am i deithio gael ei gyfyngu'n ddiangen. Yn bendant, rwy'n awyddus iawn i ymweld â fy mherthnasau yn yr Eidal, ond rhaid codi'r cyfyngiadau hynny'n ddiogel.
Hoffwn wneud sylw byr, os caf, Ddirprwy Lywydd, ar welliant 3, ac rydym yn hapus iawn i gefnogi hwn. Nid ydym yn deall amharodrwydd Llywodraeth Cymru i fynnu bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn wir, mewn sefyllfaoedd eraill lle mae'n anodd cadw pellter cymdeithasol. Roedd nifer o dystion i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ein gwrandawiadau diweddar ynghylch trafnidiaeth, gan gynnwys cynrychiolwyr yr undebau llafur, yn gryf o blaid gwisgo gorchuddion wyneb.
Nawr, dywedodd y Prif Weinidog, wrth ymateb i gwestiwn yn gynharach, fod Llywodraeth Cymru yn pryderu eu bod yn credu, os yw pobl yn gwisgo masgiau wyneb, y gallai hynny eu hannog i ymddwyn mewn modd sy'n amhriodol. I mi, mae'n ymddangos y bydd gweld pobl yn gwisgo gorchuddion wyneb yn annog pobl i gofio nad ydym eto mewn amseroedd arferol ac yn bendant, gallai hynny eu hannog i gadw pellter cymdeithasol a bod yn fwy gofalus. Rwy'n synnu braidd nad yw'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn barod i wrando ar eu cymheiriaid partneriaeth gymdeithasol yn yr undebau llafur yn hyn o beth—y gweithwyr yr effeithir arnynt fwyaf, gweithwyr y mae llawer ohonynt, yn anffodus, wedi mynd yn sâl a rhai ohonynt wedi marw oherwydd risg uchel eu swyddi. Felly, os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif yn credu bod gwisgo gorchuddion wyneb yn mynd i wneud i bobl ymddwyn mewn ffordd amhriodol, rwy'n awyddus iawn iddynt gyhoeddi'r dystiolaeth sy'n sail i hynny. Oherwydd nid wyf yn un o gefnogwyr mwyaf brwd synnwyr cyffredin fel arfer, ond mae synnwyr cyffredin yn awgrymu fel arall, ac mae fy mhrofiad personol i o fod mewn lleoliadau lle mae pobl yn gwisgo gorchuddion wyneb hefyd yn awgrymu fel arall.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, ni allwn gefnogi gwelliant y Llywodraeth. Dyma'r stwff 'mae popeth yn iawn' arferol. Nid yw popeth yn iawn. Nid yw hwnnw'n ymateb digonol i'r pwyntiau y mae'r Ceidwadwyr wedi'u codi yn eu cynnig. Ddirprwy Lywydd, hoffwn gloi drwy gymeradwyo ein gwelliant a gwelliant 3 i'r Siambr.