10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: COVID-19 a Thrafnidiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 6:40, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r gweithwyr trafnidiaeth, o weithwyr maes awyr sy'n caniatáu i gyfarpar diogelu personol hanfodol gael ei gyflenwi i faes awyr Caerdydd, staff bysiau a threnau, sydd wedi helpu gweithwyr allweddol i ddarparu gwasanaethau, staff siopau beiciau sydd wedi helpu i annog pobl i feicio, i weithwyr priffyrdd sydd wedi helpu i wneud gwaith atgyweirio hanfodol. Mae eu gwaith caled drwy gydol yr argyfwng wedi bod yn amhrisiadwy.

Mae hon yn adeg enbyd, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n galw am ymatebion difrifol, ac nid yw'r cynnig hwn gan y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn ymateb difrifol. Ac rwy'n dweud 'y Blaid Geidwadol yng Nghymru', Ddirprwy Lywydd, oherwydd mae arnaf ofn fod y prosiect anrhydeddus i greu'r Ceidwadwyr Cymreig i'w weld fel pe bai wedi marw—wedi ei anghofio yn wyneb y coronafeirws er mwyn dilyn y trywydd byrbwyll a osodwyd gan y Blaid Geidwadol yn Lloegr.

Wythnos ar ôl wythnos, mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu galwadau gan y Blaid Geidwadol yng Nghymru i efelychu'r cyhoeddiad cefn amlen diweddaraf o Stryd Downing. Nid polisi iechyd cyhoeddus a yrrir gan gynhadledd y wasg yw dull y Llywodraeth hon o weithredu. Ac ni ddylai'r Torïaid yma efelychu ffolineb eu cymheiriaid yn Llundain os ydynt am i frand Plaid y Ceidwadwyr Cymreig gadw unrhyw hygrededd.  

Mae'r cynnig yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i weithredwyr bysiau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws. Yn syml, nid yw'n wir, Ddirprwy Lywydd. Cwmnïau masnachol yw'r rhain, fel y maent yn ein hatgoffa'n aml, ac mae 95 y cant o'u cwsmeriaid wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio eu gwasanaeth, ond er bod teithwyr, yn ddealladwy, wedi cefnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny. Honnodd Darren Millar fod y gostyngiad o 95 y cant yn ganlyniad i'w hoff slogan—y 'rheol bum milltir greulon'. Ond mae'r cwymp wedi bod yr un fath yn Lloegr, Darren, felly beth yw rhesymeg hynny? Rwy'n credu mai'r gair a ddefnyddioch chi yn eich cyfraniad oedd 'hurt'—wel, os yw'r cap yn ffitio.

Rydym wedi bod yn darparu cymhorthdal o £30 y pen am bob teithiwr bws. Cyn COVID, roedd cyllid y sector cyhoeddus yng Nghymru oddeutu hanner refeniw'r gweithredwyr bysiau. Nid yw'r swm a gafodd gweithredwyr yng Nghymru gan y trethdalwyr wedi gostwng. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i weithredwyr bysiau i ddod â'r swm o arian cyhoeddus y maent yn ei gael i ychydig llai na hanner eu refeniw cyn-COVID, gan efelychu ein lefel ni o gefnogaeth. Ac eto, nid wyf yn clywed y Blaid Geidwadol Seisnig yng Nghymru yn tynnu sylw at hynny. Bydd ein cyllid argyfwng yn parhau i warantu cefnogaeth i'r diwydiant. Mae ein cymorth ni ein hunain bellach dros £45 miliwn ar gyfer chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon, ac eto mae'r cynnig heddiw'n gresynu at ein methiant i ddarparu cymorth digonol. Mae'r rhain yn adegau difrifol—nid yw hwn yn ymateb difrifol.

Byddwn yn parhau i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd er bod teithwyr wedi cefnu arni am nawr, rydym am sicrhau bod rhwydwaith yno i'w gwasanaethu pan fydd hyn ar ben. Wrth gwrs, mae'n gyfnod anodd iawn, ac mae galwadau aruthrol ar arian cyhoeddus, ac mae punt a werir ar redeg bws sydd fwy neu lai yn wag yn bunt na chaiff ei gwario ar gartrefi gofal, ar gefnogi canol trefi sy'n ei chael hi'n anodd, ar helpu pobl ifanc yn ôl i waith. Felly, pan fyddwn yn ymrwymo arian trethdalwyr Cymru i helpu cwmnïau bysiau sydd mewn trafferthion, rydym yn gwneud dewis, ac mae'n bolisi gennym i gael rhywbeth yn gyfnewid am hynny—ymrwymiad i gadw prisiau tocynnau'n isel, ymrwymiad i gadw'r gwasanaethau y mae teithwyr am eu cael, ac ymrwymiad gan gwmnïau i agor eu llyfrau er mwyn inni weld bod ein cyllid yn mynd lle dylai fynd.

Nawr, mae nifer o gyfranwyr wedi trafod masgiau wyneb yn y ddadl heddiw, Ddirprwy Lywydd: Lynne Neagle, Caroline Jones a Huw Irranca-Davies. Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach wrth y Senedd, rydym yn edrych ar y sefyllfa mewn perthynas â masgiau i weld a allwn ganiatáu i fwy o bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, a thrafod ei gyngor gyda'r prif swyddog meddygol. Nid yw mor syml ag y caiff ei gyfleu. Mae yna gyfaddawdu yma. Rydym yn pryderu am faterion cydraddoldeb—ceir llawer o bobl nad ydynt yn gallu gwisgo masg. Mae llawer o anableddau'n gudd, ac mae perygl y bydd teithwyr yn teimlo llid pryder eu cyd-deithwyr am beidio â gwisgo masg. Felly, mae angen inni droedio'n ofalus. Ac mae'r dystiolaeth fod masgiau'n effeithio ar ymddygiad pobl gan eu gwneud yn fwy byrbwyll yn rhywbeth rydym yn ei gadw mewn cof hefyd. Ond fel rwy'n dweud, rydym yn ei adolygu. Nid ydym mewn sefyllfa heddiw i newid ein safbwynt, ond rydym yn ei drafod ar hyn o bryd gyda'r prif swyddog meddygol.

Byddwn yn sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i gefnogi cynnydd graddol mewn gwasanaethau, ond ar adeg sy'n briodol i deithwyr a'r economi, nid i gyfranddalwyr cwmnïau bysiau'n unig, sydd wedi bod yn lobïo'r Ceidwadwyr Cymreig heddiw, mae'n amlwg. Mae'n bosibl eu bod am inni drosglwyddo mwy o'n harian i berchnogion sy'n filiwnyddion neu Lywodraethau tramor, ond byddwn yn parhau i fynnu gwerth i deithwyr Cymru ac nid ydym yn ymddiheuro am hynny.  

Gadewch i mi droi at Faes Awyr Caerdydd, lle mae'r cynnig yn ein beirniadu am annog cwmnïau hedfan i beidio â hedfan. Maes awyr roedd y Ceidwadwyr am inni adael iddo fethu mewn dwylo preifat, maes awyr a achubwyd ac a adfywiwyd trwy berchnogaeth Llywodraeth Cymru a hyd nes y tarodd y pandemig roedd yn cael ei wella—mae'r niferoedd wedi codi 70 y cant ers i Lywodraeth Cymru gamu i mewn—a hynny, ar bob cam o'r ffordd, yn wyneb gwrthwynebiad y Blaid Geidwadol yng Nghymru—ar bob cam—a'n galwadau ar Lywodraeth y DU i helpu meysydd awyr rhanbarthol, fel Caerdydd, wedi'u hanwybyddu. A dyna lle dylai'r Ceidwadwyr Cymreig anelu rhywfaint o'u pŵer, gymaint ag sydd ganddynt, ar geisio perswadio Llywodraeth y DU i ddatblygu strategaeth gydlynol ar gyfer meysydd awyr rhanbarthol.  

Ac yn awr cawn ein beirniadu am fod eisiau gorfodi'r cyfyngiadau teithio y pleidleisiodd y Ceidwadwyr drostynt. Cefnogodd y Ceidwadwyr y ddeddf a basiwyd gan y Senedd hon i ofyn i bobl aros yn lleol. A chyn gynted ag y daw corfforaeth heibio, gwelwn wir liwiau'r Torïaid—ar ochr cwmni preifat arall sydd am roi elw tymor byr o flaen iechyd y cyhoedd. Ac unwaith eto, nid ydym yn ymddiheuro am fod eisiau cadw pobl yn ddiogel.