Effaith COVID-19 ar yr Economi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:45 am ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 11:45, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Mae cael ymateb cydgysylltiedig gan wahanol Lywodraethau yn y DU wedi bod yn un o broblemau'r argyfwng rydym yn byw drwyddo, ac mae'n amlwg y bydd yr economi yng Nghymru yn dioddef i raddau mwy gan fod y Prif Weinidog yn mynnu gwneud pethau'n wahanol yma. Rwy'n teimlo y gallai'r broblem fod yn cael ei gwaethygu gan fod gan y Prif Weinidog syniad chwyddedig o'i bwysigrwydd ei hun. Efallai mai un broblem yw bod cyflog Prif Weinidog Cymru bron yr un faint â chyflog Prif Weinidog y DU. O ystyried bod cymdeithas fasnach bwysig yng Nghymru newydd ddatgan nad oes hyder ganddynt yn y Prif Weinidog, a yw'n credu'n wirioneddol ei fod yn haeddu cyflog o'r fath?