Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 12:01 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Ynghyd â llawer o adrannau Whitehall, mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu arian ad-daladwy o gronfa hapddigwyddiadau'r DU. Yn ein hachos ni, defnyddiwyd £857 miliwn i flaenoriaethu ein camau gweithredu i gefnogi busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn wyneb pandemig byd-eang y coronafeirws.