Y Grant Bloc

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 12:02 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 12:02, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, mae'n bwysig dweud bod yr £857 miliwn yn arian ad-daladwy; nid yw'n arian y gallwn ei ddefnyddio i fuddsoddi yng Nghymru. Ac er fy mod eisiau cydnabod yr help a gawsom drwy'r Ysgrifennydd Gwladol a thrwy'r Trysorlys i sicrhau hwnnw, gadewch i ni ei roi yn ei gyd-destun: mae'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Whitehall wedi tynnu £25 biliwn o arian ad-daladwy o'r gronfa hapddigwyddiadau, felly rydym yn sôn am newid mân o gymharu â hynny.

Lywydd, arhoswn i weld beth fydd gan Ganghellor y Trysorlys i'w ddweud heddiw. Mae ein treth stamp, ein cyfundrefn treth trafodiadau tir yng Nghymru, eisoes yn rhyddhau llawer mwy o bobl rhag talu'r dreth honno yng Nghymru nag a fyddai'n digwydd ar draws y ffin, felly os yw'r Aelod eisiau ystyried hynny'n afluniad, mae'n afluniad o blaid ei etholwyr a hwythau'n byw ar yr ochr hon i'r ffin. Ond yr hyn rydym wedi'i ddysgu, Lywydd, dros flynyddoedd lawer, yw na ddylem ddibynnu ar y penawdau y mae'r Trysorlys yn eu gwneud cyn unrhyw ddatganiad. Arhoswn i glywed beth fydd gan Ganghellor y Trysorlys i'w ddweud. Fe edrychwn ar y ffyrdd y bydd Cymru'n colli arian yn ogystal â'r ffyrdd y gallem elwa, ac yna bydd y Cabinet yma'n dod i gasgliadau cyffredinol ar effaith unrhyw newidiadau a allai gael eu cyhoeddi heddiw ar y gyllideb ac ar bolisïau yma yng Nghymru.